Fe fydd 38 o bobl yn cael eu hanrhydeddu i'r Orsedd eleni
|
Mae rhestr Anrhydeddau'r Orsedd 2006 wedi ei chyhoeddi.
Ar y rhestr o 38 mae nifer o bobl o fro'r Eisteddfod, Abertawe a'r Cylch, ac enwau sy'n amlwg drwy Gymru gyfan.
Yn eu plith mae cyn-fachwr Cymru a Llanelli Robin McBryde, yr Aelod Seneddol Betty Williams a Phrif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd Richard Brunstrom.
Mae pawb wedi derbyn anrhydedd am waith mewn meysydd gwahanol.
Mae 17 yn derbyn y Wisg Werdd eleni, gan gynnwys Beti Wyn James o Gaerfyrddin, un sy'n cyfrannu at Dweud ei Ddweud yn achlysurol ar Post Cyntaf Radio Cymru.
"Mae'n anrhydedd annisgwyl ond yn anrhydedd fawr.
"Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal eleni yn y fro y ces i fy ngeni ac fe fydd cael fy nerbyn i'r Orsedd yn yr ardal yn ychwanegu at y melystra. Mae'n fraint fawr i mi."
Bachwr a heddwas
Yn derbyn y Wisg Werdd hefyd y mae'r gantores o Donyrefail, Iris Williams, sy'n byw yn Efrog Newydd a'r cyn-fachwr rhyngwladol Robin McBryde a enillodd 37 o gapiau i Gymru.
"Mae hyn yn dipyn o syndod ond yn anrhydedd ac yn rhywbeth unigryw," meddai Mr McBryde.
"Ac mae'n rhywbeth arbennig iawn i Gymru ac i Gymro gael ei anrhydeddu gan ei wlad ei hun.
"Hefyd y ffaith fy mod yn dilyn rhai o gewri'r byd rygbi, Gerald Davies, Gareth Edwards, Ray Gravell ac Ieuan Evans sydd wedi cael eu hanrhydeddu. Dwi'n teimlo'n lwcus iawn."
Mae 21 yn derbyn y Wisg Wen eleni, gan gynnwys Trysorydd yr Eisteddfod Eric Davies, y ffotograffydd Marian Delyth, y cerddor a'r darlledwr Alwyn Humphreys, arweinydd Mudiad Ysgolion Meithrin Hywel Jones a'r arlunydd Mary Lloyd Jones.
Un fydd yn cael ei anrhydeddu fydd Robin McBryde
|
"Dwi'n llawn syndod ac mae hyn yn hollol annisgwyl ond rhaid dweud mai dyma'r anrhydedd fwya sy'n bosib," meddai'r arlunydd.
"Mae'n rhoi rhyw fath o gadarnhad i mi barhau gyda'r gwaith ac yn galondid mawr."
Hefyd yn cael eu hanrhydeddu fydd bardd Cenedlaethol Cynta Cymru, Gwyneth Lewis, y dramodydd Gareth Miles, yr hanesydd Prys Morgan, Aelod Seneddol Conwy Betty Williams a Richard Brunstrom, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru.
Mae Mr Brunstrom wedi chwyldroi agwedd Heddlu'r Gogledd tuag at y Gymraeg ac fe lwyddodd i ddysgu'r iaith a dod yn gwbwl rhugl ynddi mewn cyfnod byr iawn.
"Fel person sydd wedi symud i Gymru dwi'n falch iawn o dderbyn yr anrhydedd hon," meddai Mr Brunstrom.
"Dwi'n falch o gefnogi gwaith yr Eisteddfod dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae'n bwysig bod yr heddlu'n cymryd rhan yn y gymdeithas Gymraeg yng Nghymru ac mae Cymru yn wlad ddwyieithog."
Safle hen waith dur Felindre yw Maes yr Eisteddfod eleni a bydd y Brifwyl yn cychwyn Awst 5.