Mae Imogen wedi cael ei chosbi deirgwaith am drafon enwebiadau
|
Mae'r Gymraes o Lanelli, Imogen Thomas, yn cael aros yn nhŷ'r Brawd Mawr am o leia wythnos arall.
Pleidleisiodd gwylwyr Sianel 4 i orfodi Lisa Huo, 27 o Fanceinion, i adael y rhaglen deledu realaeth.
Y ferch 27 oed o Fanceinion oedd ffefryn y bwcis i adael y rhaglen nos Wener ond roedd y Gymraes yn ail ffefryn.
Mae'r bleidlais yn golygu y bydd modd i Imogen barhau i siarad yn ei mamiaith yn y tŷ gyda'r ail gystadleuydd o Gymru Glyn Wise, 18, o Flaenau Ffestiniog.
Roedd pedwar yn wynebu pleidlais y cyhoedd yr wythnos hon - Lisa, Imogen, Mikey Dalton, 22 oed o Lerpwl, a Nikki Graham, 24 oed o Middlesex.
Cafodd Imogen a Glyn eu gorfodi i wneud eu henwebiadau o flaen eu cydletywyr fel cosb am dorri'r rheolau trwy drafod enwebiadau.
Fe fu'n rhaid i Glyn wynebu pleidlais y cyhoedd ar ddechrau'r gyfres sy'n cael ei darlledu am dri mis eleni.
Mae Glyn Wise yn falch o allu siarad Cymraeg yn y tŷ gydag Imogen
|
Yr wythnos hon dywedodd Glyn wrth Imogen ei fod yn falch ei bod yn y tŷ er mwyn iddo allu siarad â hi yn ei famiaith.
Mae Glyn wedi dweud sawl tro ei fod yn cael trafferth ar brydiau i fynegi ei hun yn Saesneg.
Mae'r gyflwynwraig a'r tiwtor iaith Nia Parry wedi dweud fod cael dau berson ifanc Cymraeg yn siarad eu mamiaith ar raglen mor boblogaidd â Big Brother yn arf farchnata "amhrisiadwy" i'r iaith.