BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 23 Mehefin 2006, 09:46 GMT 10:46 UK
Iaith yn 'arf marchnata'
Imogen Thomas
Mae Imogen a Glyn wedi bod yn siarad Cymraeg

Mae tiwtor iaith yn dweud fod y defnydd o'r Gymraeg ar raglen y Brawd Mawr yn hwb i'r iaith.

Clywyd y Gymraeg mewn cartrefi ar draws Prydain wrth i ddau o gystadleuwyr y rhaglen gael ambell i sgwrs yn eu mamiaith.

Bydd y sgrysiau'n parhau am o leia wythnos wedi i wylwyr bleisleisio nos Wener i gadw Imogen Thomas o Lanelli yn y rhaglen.

Ers dechrau'r rhaglen mae cynhyrchwyr Big Brother wedi dangos Glyn Wise, 18 oed o Flaenau Ffestiniog, ac Imogen Thomas o Lanelli yn siarad Cymraeg.

Mae eu sgyrsiau wedi eu cyfieithu ac isdeitlau Saesneg wedi eu dangos.

Dywedodd y cyflwynydd a'r tiwtor Cymraeg Nia Parry fod y defnydd o'r Gymraeg yn codi proffil yr iaith.

"Mae'n grêt - mae'n dangos bod Glyn ac Imogen yn gynnyrch ein system addysg Gymraeg ni.

"Ac mae'n arf marchnata hollol amhrisiadwy i'r iaith ac yn codi ymwybyddiaeth dros y ffin.

Glyn Wise
Mae Glyn yn cystadlu am wobr o £100,000

"Mae'n dangos pobl ifanc drwsiadus yn byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg."

Er taw hon yw'r seithfed gyfres, hwn yw'r tro cynta i siaradwyr Cymraeg gael eu dewis i fod ynddi.

Cwta 24 awr wedi iddo fynd i mewn i dŷ y Brawd Mawr cafodd Glyn gerydd oddi wrth lais y Brawd Mawr am siarad ag Imogen, 23 oed, yn Gymraeg.

Ond bellach mae eu sgyrsiau'n cael eu cyfieithu ar y pryd a phawb yn deall yr hyn y maen nhw'n ei ddweud.

Dywedodd cyfarwyddwr strategol Bwrdd yr Iaith, Rhodri Llwyd Morgan, ei fod yn falch o'r sylw i'r Gymraeg.

"Mae'r sylw yn wych a dwi'n credu o safbwynt y Gymraeg ei fod yn dangos dau beth.

"Mae'r ymwybyddiaeth yn codi y tu allan i Gymru ac mae'n adlewyrchu'r ffaith fod newid yn sefyllfa'r Gymraeg ymhlith pobl ifanc yng Nghymru."

Dywedodd fod blogio, cerddoriaeth a'r cyfryngau ymhlith y ffactorau oedd yn poblogeiddio'r diwylliant.

Mae'r gyfres yn cael ei darlledu am dri mis eleni tan ddiwedd yr haf.




HEFYD
Y Brawd Mawr: Dim negeseuon Cymraeg
23 Mai 06 |  Newyddion
Chwaer fawr yn gwylio'r brawd bach
24 Mai 06 |  Newyddion
Y Brawd Mawr a'r iaith
19 Mai 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^