Mae'r swyddi wedi eu hysbysebu ar safle gwe Y Byd
|
Mae papur dyddiol gam yn nes wrth i swyddi Y Byd gael eu hysbysebu.
Ar wefan y cwmni mae chwech o swyddi - newyddiadurol a rheoli - yn cael eu hysbysebu.
Y gred yw y bydd y rhifyn cyntaf yng ngwanwyn 2007 a gallai'r papur gael ei lansio Ddydd Gŵyl Dewi 2007.
Mae cadeirydd y cwmni gafodd ei sefydlu i greu'r papur, Ned Thomas, wedi dweud nad oedd dyddiad pendant eto ar gyfer y lansiad.
"Mae'r holl ymdrech yn dibynnu ar hyder a ffydd fod pethau'n bosib, a bod pobl dalentog am ymgymryd â'r gwaith," meddai.
Dywedodd fod y cwmni wedi gofyn i unrhyw un oedd â diddordeb i gysylltu â nhw ers dwy flynedd.
 |
Mae angen ffydd a gobaith i weld rhywbeth fel hyn yn cael ei wireddu
|
Y swyddi ar y wefan yw golygydd, golygydd newyddion, golygydd erthyglau nodwedd, swyddi rheolwr cyffredinol, rheolwr hysbysebion a rheolwr cylchrediad.
Dywedodd Mr Thomas fod digon o ddiddordeb yn y swyddi newyddiadurol ond bod angen pob math o sgiliau i weithio ar bapur newydd.
Roedd angen denu sylw "pobl y tu allan i gylchoedd llenyddol," meddai. Bydd y swyddi yn y canolbarth.
Mae actorion, cerddorion, arweinwyr crefyddol, awduron ymhlith y rhai sydd eisoes wedi cefnogi Y Byd.
Hyd yn hyn mae Ioan Gruffudd, Gruff Rhys, Maureen Rhys, John Ogwen, Jan Morris, Huw Edwards, Angharad Mair, Ray Gravell, Mary Lloyd Jones wedi ymaelodi â chlwb y papur.
£300,000
Mae cyfranddalwyr wedi buddsoddi dros £300,000.
Un o'r rhai sydd wedi cyfrannu yw'r actores a'r sgriptwraig Gwenno Dafydd sy'n falch fod pethau'n symud yn eu blaen.
"Dwi wrth fy modd a dweud y gwir ... ro'n ni'n dechrau poeni falle na fyddai pethe ddim yn digwydd.
"Ro'n i wedi buddsoddi yn y gobaith fod pethe'n datblygu a phan mae amser yn mynd heibio, chi'n dechrau pendroni a meddwl: 'A ydyn ni wedi gwneud y penderfyniad cywir?'
"Mae angen ffydd a gobaith i weld rhywbeth fel hyn yn cael ei wireddu."