BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 18 Mehefin 2006, 09:18 GMT 10:18 UK
Hen gofeb a'r haul cynnar
Bryn Celli Ddu
Mae'r haul yn tywynnu i mewn i'r siambr drwy'r fynedfa gul yma

Mae archeolegydd wedi canfod llwybr i siambr gladdu ar Ynys Mn gafodd ei chodi er mwyn dal yr haul yn gwawrio ar droad y rhod yn yr haf.

Dywedodd Steve Burrow ei fod "ar ben ei ddigon" pan wnaeth yr haul dywynnu drwy'r coed yn Siambr Bryn Celli Ddu.

Fe wnaeth y darganfyddiad wrth ymchwilio i lyfr am siambrau claddu yng Nghymru yn ystod y cyfnod 4,000 a 3,000 CC.

Mae dyddiad carbon ar y safle yn awgrymu y gallai gynnwys yr adeilad hynaf yng Nghymru.

Dywedodd Mr Burrow, curadur archeoleg neolithig yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, iddo ddod o hyd i gyfeiriad am hyn yng ngwaith y gwyddonydd Norman Lockyer.

'Anhygoel'

Cyn belled ag y gwyddai Mr Burrow doedd neb wedi mynd ati i gadarnhau'r manylion ac felly fe wnaeth oedi cyn cyhoeddi ei gyfrol ei hun er mwyn cadarnhau'r wybodaeth.

Dywedodd ei fod wedi ymweld 'r safle ddwywaith cyn y darganfyddiad gan nad oedd yr haul i'w weld oherwydd y tywydd.

Yr haul yn dod i mewn i'r siambr
Yr haul yn dod i mewn i'r siambr

Ar ddiwrnod olaf ei ail ymweliad dywedodd ei fod wedi "gwirioni" pan wnaeth yr haul dywynnu drwy'r coed cyfagos ar fynediad y siambr ar hyd y llwybr pum-medr.

"Roedd y teimlad o weld rhywbeth oedd wedi ei osod yn fwriadol yno 5,000 mlynedd yn l yn anhygoel," meddai.

"Fi oedd y person cyntaf i gofnodi'r digwyddiad ac felly roeddwn yn ceisio cofnodi'r cyfan gyda chamera digidol ac ar gamera fideo, ond roeddwn wedi gwirioni cymaint nes fy mod i'n dawnsio."

Arddangosfa

Mae Mr Burrow yn ansicr a gafodd y safle ei ddefnyddio gan bobl i wylio'r haul yn codi ar y diwrnod hiraf gan ei fod wedi ymchwilio cyn ac ar l y diwrnod hwnnw.

Bryn Celli Ddu
Cafodd Bryn Celli Ddu ei adeiladu i wynebu'r haul wrth iddi wawrio ar y diwrnod hiraf

Mae'r safle o dan berchnogaeth CADW a fu'n rhannol gyfrifol am dalu am y rhaglen dyddio carbon a wnaeth ganfod tyllau y tu allan i'r fynedfa yn dyddio'n l i 3,000 mlynedd cyn y siambr.

Fe fydd modd gwylio fideo o'r haul yn codi ac yn mynd i mewn i'r siambr fel rhan o arddangosfa o dan y teitl "Marwolaeth yng Nghymru 4,000 - 3,000 CC" yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^