BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 19 Mehefin 2006, 07:51 GMT 08:51 UK
Maffia Mr Huws yn ail ffurfio
Maffia Mr Huws
Cafodd Maffia Mr Huws ei ffurfio 26 mlynedd yn l

Mae'r grŵp Maffia Mr Huws wedi ail ffurfio ar gyfer gŵyl Pesda Roc a hynny 26 mlynedd ers ffurfio'r grŵp.

Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i'r ŵyl gerddorol, oedd yn ei hanterth yn ystod yr 1980au, gael ei chynnal ym Methesda wedi iddi gael ei hadfywio tair blynedd yn l i nodi 100 mlynedd ers diwedd Streic Fawr y Penrhyn.

Eleni roedd y digwyddiad er cof am y gitarydd Tich Gwilym, fu farw fis Mehefin y llynedd.

Bu'r canwr Geraint Jarman yn cymryd rhan yn yr ŵyl a bu'n rhannu llwyfan Maffia Mr Huws am y tro cyntaf ers 20 mlynedd.

Doedden nhw ddim wedi perfformio gyda'i gilydd ers Taith y Carcharorion 20 mlynedd yn l.

'Uchelgais'

Yn y Pesda Roc cyntaf un yn l yn yr 1980au y ffurfiwyd y grŵp Maffia Mr Huws ac roedden nhw wrth eu boddau yn cael bod nl ar y llwyfan.

"Mae'n ychydig bach o dj-vu, mae'r hen wynebau yn dal o gwmpas y rhan fwyaf ohonyn nhw," meddai Gwyn Jones o Maffia Mr Huws.

"Dwi reit nerfus mae gofyn i ni swnio'n dda ar l yr holl flynyddoedd a dyma'r tro cyntaf erioed i ni ganu ar l Geraint. Eich tir chi ydi Bethesda, meddai (Geraint Jarman), dwi ddim eisiau mynd ar eich l chi."

Roedd Rhys Mwyn, cydlynydd Pesda Roc, yn edrych ymlaen at y digwyddiad.

"Dydi Jarman erioed wedi chwarae yn Pesda Roc ac mae hynny wedi bod yn uchelgais ganddo," meddai.

"Hefyd os mai hwn fydd gig olaf Maffia Mr Huws maen nhw'n gwneud hynny ar eu tir eu hunain ac wedyn fe fyddan nhw wedi cychwyn a gorffen yn Pesda a dwi ddim yn amau mai Pesda Roc yn yr 1980au oedd un o'r llwyfannau mawr cyntaf i Maffia gael."

Ar y we

Dair blynedd yn l daeth miloedd i Pesda Roc i glywed y Super Furries a Cerys Matthews.

Ers hynny mae'r ŵyl wedi mynd o nerth i nerth ac mae dros 20 o fandiau yn cymryd rhan y penwythnos hwn.

Ymhlith y grwpiau eraill oedd yn perfformio yn ystod yr ŵyl mae Sibrydion, Mim Twm Llai, Winabego, NAR, Genod Droog a'r Wyrlgigs.

Hefyd am y tro cyntaf erioed roedd modd i bobl gael blas ar y perfformiadau yn fyw ar y we.




HEFYD
Tich Gwilym yn marw
25 Meh 05 |  Newyddion
Streicwyr yng Ngwyl Pesda Roc
22 Meh 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^