Phillip Saunders: Perchennog stondinau papur newydd
|
Mae menyw 40 oed a dyn 37 oed oedd wedi eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth perchennog stondinau papur wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Roedd y fenyw wedi ei harestio ar amheuaeth o gynllwynio i ddwyn a'r dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.
Yn gynt cafodd dyn arall 47 oed ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu. Cafodd y tri eu harestio ddydd Mercher.
Ymosodwyd ar Phillip Saunders, 52 oed, perchennog stondin bapurau newydd yng ngorsaf bysiau canol Caerdydd, wrth iddo fynd adref o'i waith.
Cafodd yr arian yr oedd wedi ei ennill y diwrnod hwnnw ei ddwyn.
Aed ag e i Ysbyty Athrofaol Cymru ond bu farw bum niwrnod yn ddiweddarach.
Treuliodd tri dyn dros 10 mlynedd yn y carchar ar ôl iddyn nhw gael eu cyhuddo ar gam am y llofruddiaeth cyn eu rhyddhau yn 1999.
Gwybodaeth
Yn 1988, cafwyd Michael O'Brien, Ellis Sherwood a Darren Hall yn euog o lofruddio Mr Saunders.
Cawson nhw eu rhyddhau o'r ddalfa ar fechnïaeth yn 1998. Flwyddyn yn ddiweddarach dywedodd barnwyr y Llys Apêl fod yr euogfarnau gwreiddiol yn anniogel.
Yn 2003 cychwynnodd yr heddlu ymchwiliad newydd.
Mae'r Ditectif Uwcharolygydd Adrian Hogg, sy'n arwain yr ymchwiliad, wedi gofyn unwaith eto am wybodaeth am y llofruddiaeth.
"Dylai unrhyw un â gwybodaeth, hyd yn oed os yw'n ymddangos yn ddibwys, gysylltu â ni.
"Mae pawb sy'n ymchwilio yn meddwl am deulu a ffrindiau Phillip Saunders."
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio gorsaf heddlu leol, yr ystafell ymchwilio ar 029 20 571583 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.