Gall asbestos achosi mesothelioma, cansyr leinin yr ysgyfaint
|
Mae BBC Cymru yn deall y bydd Llywodraeth Prydain yn cyflwyno deddf fel y bydd yn haws i bobl sy'n dioddef o gansyr sy'n ymwneud ag asbestos hawlio iawndal llawn.
Fis diwethaf dyfarnodd Arglwyddi'r Gyfraith y dylai iawndal fod yn gyfyngedig mewn achosion yn ymwneud â sawl cyflogwr.
Roedd y penderfyniad wedi ei seilio ar dri achos prawf, gan gynnwys achos Sylvia Barker o Dreffynnon a gollodd ei gŵr yn 1996.
Roedd Mrs Barker wedi cael iawndal o £152,000 - ond roedd penderfyniad yr arglwyddi'n golygu ei bod yn bosib na fyddai'n ei dderbyn i gyd.
Yng nghynhadledd flynyddol Undeb y Gweithwyr Cyffredinol ddydd Llun dywedodd Prif Weinidog Prydain, Tony Blair, ei fod yn "gofidio am y dyfarniad" ac addawodd yn bersonol y byddai'n anelu at ei wrthdroi.
Y gred oedd y gellid addasu'r ddeddfwriaeth i wneud hynny.
Ond mae BBC Cymru yn deall y bydd mesur yn cael ei gyflwyno yn y Senedd ddydd Llun a fydd yn dadwneud effaith y dyfarniad.
Mae tua 1,900 o bobl yn marw bob blwyddyn o mesothelioma ym Mhrydain.
Roedd y dyfarniad yn gorfodi'r rhai oedd yn ceisio hawlio iawndal i ddod o hyd i bob cyflogwr, tasg a allai brofi'n amhosib.
Os bydd y dyfarniad yn cael ei wrthdroi, gallai fod yn haws ac yn gyflymach i ddioddefwyr a'u teuluoedd hawlio iawndal.
'Anghyfiawn'
Dyfarnwyd £152,000 i Mrs Barker yn yr Uchel Lys dair blynedd yn ôl am farwolaeth ei gŵr Vernon yn 57 oed.
Gan fod Mr Barker wedi gweithio i fwy nag un cyflogwr - a chan na ellid beio'r un yn benodol am ei salwch - roedd dyfarniad yr arglwyddi'n golygu y gallai'r iawndal terfynol fod yn ddim ond ffracsiwn o'r ffigwr gwreiddiol.
Bu farw o mesothelioma, cansyr leinin yr ysgyfaint, wedi iddo ddod i gysylltiad ag asbestos dros y blynyddoedd.
Dywedodd cyfreithiwr Mrs Barker, James Thompson: "Yn fy marn i roedd (y dyfarniad) yn benderfyniad cwbl anghyfiawn, heb unrhyw sail mewn tegwch na chyfiawnder.
"Yr hyn fydd yn ei olygu yw y bydd ganddyn nhw (y rhai sy'n ceisio iawndal) well siawns o weld eu ceisiadau'n cael eu cwblhau o fewn eu hoes eu hunain," eglurodd.
"Oni bai fod y ddeddf yn cael ei newid yn ôl bydd mwy o ddioddefwyr yn marw heb weld unrhyw iawndal yn eu hoes eu hunain."
Dywedodd Mr Thompson nad yw ei gleient hyd yma wedi derbyn "dim ceiniog" o'r iawndal, a phe bai'r dyfarniad yn cael ei wrthdroi gallai dderbyn y cyfanswm llawn.
Dywedodd fod Mrs Barker yn croesawu'r newyddion fel "llygedyn o oleuni ar ddiwedd y twnnel".