BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 14 Mehefin 2006, 05:48 GMT 06:48 UK
Glyndwr: Disodli cerflun 'anaddas'
Cerflun Owain Glyndŵr
Rhai'n anfodlon: Yr hen gerflun

Er bod cerflun un o arwyr Cymru yng nghanol tref ers sawl blwyddyn, bydd yn cael ei ddisodli gan gerflun newydd gwerth £100,000.

Ac mae angen lleoliad newydd ar hen gerflun Owain Glyndŵr yng Nghorwen.

Mae'r cyngor cymuned yn gobeithio y bydd rhywun yn cynnig lle anrhydeddus iddo gan y bydd cerflun newydd yn ei le o fewn misoedd.

"Mae wedi cyflawni ei bwrpas," meddai Gerallt Tudor o Gyngor Bro Corwen.

"Mae cerflun gwell mwy drudfawr, mwy tywysogaidd, yn mynd i ddod yn ei le a gobeithio y bydd yn plesio'r mwyafrif o bobl Cymru."

Mae'r cerflun presennol, a gafodd ei ddadorchuddio ym 1995, wedi cael ei feirniadu am flynyddoedd.

'Ddim yn deilwng'

"Dydi'r bychan (y cerflun) ddim yn deilwng o'r gŵr ...," meddai Ariel Evans, cyn-brifathro Ysgol Caer Drewyn yng Nghorwen.

"Hen, hen ŵr musgrell ydy hwn ... mae'n siwr bod ein harwr ni yn fwy tebyg i filwr oedd yn ymladd yn gadarn."

Bellach mae £100,000 wedi eu casglu i godi cerflun newydd ac mae disgwyl y bydd yn barod erbyn Medi.




HEFYD
Dadorchuddio 'cleddyf Glyndwr'
06 Mai 04 |  Newyddion
Cyhoeddi dathliadau Glyndwr
04 Ion 04 |  Newyddion
Darganfod rhan o gastell Glyndwr
29 Ebr 03 |  Newyddion
Cyhoeddi stamp brwydr Glyndwr
15 Meh 04 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^