Hen lun o Eileen Beasley gyda'i mab Elidyr a'i merch Delyth
|
Mae dynes a wnaeth safiad dros yr iaith Gymraeg yn y 1950au wedi ei hanrhydeddu mewn seremoni yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.
Gwrthododd Eileen Beasley a'i gŵr Trefor dalu treth cyngor ar ôl symud i Langennech i fyw, am fod y cais gan Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli yn uniaith Saesneg.
Oherwydd ei safiad mae Mrs Beasley wedi cael ei galw'n 'Rosa Parks mudiad yr iaith yng Nghymru' am iddi ddangos yr un penderfyniad â'r ddynes groenddu a wrthododd ildio sedd i ddyn gwyn ar fws yn Alabama ar Ragfyr 1 1955.
Roedd y seremoni i ddathlu ei chyfraniad i fywyd Cymru yn rhan o Ŵyl Fawr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ddydd Sadwrn.
Yn 1952 symudodd Mr a Mrs Beasley i fyw yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin ac fe wnaethon nhw ofyn i'r awdurdod lleol, hen Gyngor Gwledig Llanelli, am bapur treth Cymraeg.
'Cytûn'
Gwrthodwyd y cais ac fe benderfynodd y cwpwl wrthod talu'r dreth. Bu'n rhaid iddyn nhw fynd o flaen llys ddwsin o weithiau ac fe ofynnodd y pâr am i'r achos gael ei glywed yn Gymraeg.
 |
Roedden ni wedi dangos gwendidau a'r diffyg pwyslais ar y Gymraeg
|
Fe gasglodd beiliaid ddodrefn o'u cartre o leia deirgwaith, dodrefn oedd yn werth llawer mwy na'r dreth oedd yn cael ei hawlio.
Parodd yr achos yn eu herbyn am wyth mlynedd ond yn 1960 cafodd Mr a Mrs Beasley bapur treth dwyieithog.
Cafodd eu hachos sylw yn narlith radio enwog Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, yn 1962.
Mae Mrs Beasley bellach yn ei 80au ac yn byw yn Henllan Amgoed ger Hendy-gwyn ar Daf.
Ysbrydoliaeth
Dywedodd nad oedd yn difaru dim o edrych yn ôl.
"Roedd e mor rhwydd gan ein bod ni'n dau yn gytûn," meddai.
"Roedden ni wedi dangos gwendidau a'r diffyg pwyslais ar y Gymraeg."
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod safiad cadarn Mrs Beasley a'i gŵr "yn ysbrydoliaeth i genedlaethau o Gymry a aeth
ati wedyn i ymgyrchu dros gyfiawnder i'r Gymraeg".
"Flynyddoedd yn ôl gwnaeth Eileen Beasley a'i theulu safiad dewr, gan bwysleisio y dylai fod gan bobl Cymru yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg ac i dderbyn gwasanaethau trwy gyfrwng yr iaith," meddai Catrin Dafydd o'r gymdeithas.
"Ers hynny, gwelwyd nifer o ddatblygiadau pwysig, ond eto i gyd, mae pobl Cymru yn parhau i wynebu rhwystrau pan yn ceisio defnyddio'r Gymraeg wrth gyflawni tasgau dyddiol."
Yr Athro Hywel Teifi Edwards oedd yn arwain y seremoni anrhydeddu, a chafodd cywydd arbennig gan y Prifardd Gerallt Lloyd Owen ei gyflwyno i Mrs Beasley.
Wedi'r seremoni fe fu'r gymdeithas yn cynnal rali yn galw am ddeddf iaith newydd ac ymhlith y siaradwyr roedd Llywydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones.