Mae'r cyngor wedi cael gorchymyn i gau safle Cilgwyn erbyn 2008
|
Mae Cyngor Gwynedd am fwrw ymlaen gyda chynlluniau i gael gwared ar wastraff sbwriel drwy ail agor tomen gafodd ei chau chwe blynedd yn ôl.
Bwriad y cyngor yw ailagor tomen yn ardal Clynnog Fawr i gymryd gwastraff o ardaloedd Arfon a Dwyfor.
Mae'r cyngor yn chwilio am domenni addas gan fod asiantaeth yr amgylchedd wedi dweud y bydd yn rhaid i safle Cilgwyn ger Penygroes gau ymhen dwy flynedd yng Ngorffennaf 2008.
Bu ymgyrch i geisio atal y cyngor rhag ailagor Llwyn Isaf ac fe gafodd y gymuned yng Nghlynnog ei chythruddo.
Bu 300 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yn neuadd bentref Clynnog Fawr nos Fawrth, Mai 30 i drafod y cynlluniau ar gyfer y domen.
'Mynydd'
Ond pleidleisiodd aelodau o fwrdd y cyngor i'w hail-agor mewn cyfarfod yng Nghaernarfon ddydd Mawrth.
Fe fydd Llwyn Isa yn cael ei ddefnyddio am hyd at bedair blynedd er y gwrthwynebiad lleol.
Mae Ieuan Hughes sy'n ffermio'n lleol yn teimlo bod y dewis o'r lleoliad sydd rhwng Llanllyfni a Clynnog yn un rhyfedd.
"Mae hwn yn ddewis od ofnadwy, mae'n agored iawn a bydd yn dal y gwynt o bob man.
"Dim claddu bydda nhw ond gwneud mynydd o sbwriel," dywedodd.
Mae'r domen ger safle cadwriaethol Cors Cyfelog sy'n ardal o ddiddordeb gwyddonol o bwysigrwydd Ewropeaidd oherwydd y planhigion sy'n tyfu yno.
Mae trigolion lleol hefyd yn honni bod y cyfnod ymgynghorol wedi bod yn annigonol.
Ond dywedodd Dewi Rowlands o Gyngor Gwynedd: "Yn anffodus 'da ni i gyd yn cynhyrchu sbwriel ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i safle sbwriel newydd".