Ers canrifoedd: Y traddodiad yn parhau
|
Mae aelodau capel hyna'r Bedyddwyr wedi cynnal gwasanaeth arbennig sy'n ganrifoedd oed.
Yn ystod Cymanfa'r Pwnc bu aelodau Capel Rhydwilym yn Llandysilio, Sir Benfro, yn llafarganu testun o'r Beibl cyn trafod arwyddocâd yr adnodau.
Dim ond unwaith bob tair blynedd y mae'r capel yn cynnal y gymanfa ond dechreuodd y traddodiad cyn teyrnasiad Harri VIII.
Dywedodd y Parchedig Eirian Wyn Lewis, sy'n gofalu am y gwasanaeth, ei fod yn brofiad grymus.
Testun o'r Beibl yw'r Pwnc ac yn y gwasanaeth mae aelodau'r capel yn llafarganu'r adnodau.
Tua 60 o aelodau fu'n llafarganu - rhai ohonyn nhw'n blant - ac roedden nhw wedi ymarfer ers Sul y Pasg.
Ymunodd aelodau capeli ym Mynachlogddu, Login, a chapel Horeb, Maenclochog, â'r gynulleidfa yn Llandysilio ddydd Sul.
Ymdeimlad ysbrydol
Yr adnodau sy'n cyfeirio at Iesu yn galw'r disgyblion oedd y pwnc dan sylw eleni.
"Mae'n brofiad eitha unigryw - pwerus yw'r gair i'w ddisgrifio," meddai'r Parchedig Eirian Wyn Lewis cyn yr oedfa.
Mae'r gynulleidfa yn llafarganu rhan o'r Beibl
|
"Mae'r siant yn amrywio o gapel i gapel - mae nodau gwahanol i bob un."
Ac mae'r gweinidog wedi cynnal nifer o gymanfaoedd Pwnc ers 27 mlynedd ac mae'n cyfadde iddo deimlo'n "lletwith" y tro cynta.
"Do'n i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl a do'n i ddim yn hoff ohono fe. Ond dros y blynyddoedd rwy' wedi gweld gwerth y gymanfa a sylweddoli ei bod yn bwysig.
Dywedodd fod "ymdeimlad ysbrydol" oherwydd "deialog rhwng y gweinidog yn y pulpud a'r gynulleidfa".
"Chi'n dod o hyd i ryw drysorau yng nghalonnau a meddyliau'r gynulleidfa," meddai.
Osgoi erledigaeth
Mae'r tradddodiad yn mynd yn ôl i'r cyfnod cyn i Harri VIII dorri'n rhydd o'r Eglwys Gatholig.
Erbyn hyn prin yw'r capeli anghydffurfiol sy'n canu'r Pwnc.
Gan fod Capel Rhydwilym yn rhannu gweindog â chapeli eraill, dim ond unwaith bob tair blynedd y mae'n cynnal y gymanfa.
Cafodd y capel ei sefydlu yn 1668. Mae'r capel mewn cwm tawel ar lannau Afon Cleddau oherwydd bod angen addoli mewn cyfnod o erledigaeth grefyddol.
Roedd pobl yn cael eu gwahardd rhag cynnal gwasanaethau crefyddol heblaw am wasanaethau'r Eglwys Anglicanaidd ac felly bu rhaid i aelodau gwrdd yn gyfrinachol mewn llefydd anghysbell.