Doedd dim trac yn y ddinas ers chwalu Stadiwm y Morfa
|
Mae pentre chwaraeon newydd Abertawe yn cynnal ei digwyddiad athletau llawn cynta.
Fe gymrodd dros ddwy flynedd o waith i gwblhau'r adnoddau dan do ac allanol, ynghyd â dau maes bob tywydd ar gyfer pêl-droed a hoci.
Mae'r cynllun wedi costio £5.5m ac mae'r pentre yn cymryd lle trac Stadiwm y Morfa, gafodd ei chwalu fel rhan o ddatblygiad Stadiwm Liberty.
Dywed swyddogion fod y pentre, sydd drws nesa i'r pwll nofio cenedlaethol yn Ffordd Ashleigh, yn rhoi dinas Abertawe ar y blaen o ran adnoddau chwaraeon.
Prosiect ar y cyd oedd y pentre rhwng cyngor y ddinas, Prifysgol Abertawe a Chyngor Chwaraeon Cymru, ac fe gafodd ei ariannu'n rhannol gan £3m o grant gan gronfa Sportlot y Loteri Genedlaethol.
Digwyddiad athletau ddydd Sadwrn yw'r digwyddiad cynta i gael ei gynnal yna.
Dywedodd aelod o gabinet y cyngor sir, Gerald Clement: "Mae adnoddau'r ganolfan yn wirioneddol wych.
"Fe fydden nhw'n rhoi lle arbennig i athletwyr y ddinas hyfforddi a chystadlu.
"Mae'r cyngor wedi gwneud popeth posib i wneud yn siŵr fod y tystysgrif berthnasol yn cael ei roi gynted â phosib fel y gallai'r ddinas lwyfannu cystadlaethau athletau o'r radd flaenaf."