BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 3 Mehefin 2006, 10:47 GMT 11:47 UK
Glian Llwyd yn brif gerddor yr Urdd
Glian Llwyd
Roedd 'craffter a chrefft' i waith Glian Llwyd yn l y beirniad

Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2006 ydi Glian Llwyd o Gefnddwysarn, Penllyn, Meirionnydd.

Fe enillodd Ms Llwyd dlws y cerddor mewn seremoni nos Wener am ddarn o gerddoriaeth ar gyfer y delyn.

Dywedodd beirniad y gystadleuaeth, Eric Jones, bod "yma ddychymyg cerddorol ac ymagwedd broffesiynol tuag at y broses creu a chyflwyno drwyddi draw".

Laura Jenkins, Ysgol Gyfun Rhydfelen, Pontypridd, Blaenau Morgannwg Ganol ddaeth yn ail gyda'r drydedd wobr yn cael ei rhoi i Elen Hydref, Aelod Unigol o Lundain.

Mae enw a wyneb Ms Llwyd yn adnabyddus ar lwyfannau eisteddfodau fel un yn chwarae'r delyn.

Ysgrifennodd waith mewn tri symudiad ar gyfer y delyn o dan y teitl 'Darluniau'.

Astudio

Cydnabydda ddylanwad cerddoriaeth telyn John Metcalf, yn benodol ei Lyfr Lloffion.

Dywedodd ei bod yn mwynhau cyfansoddi yn ei hamser hamdden ond ei bod yn canolbwyntio ar berfformio ar hyn o bryd.

"Mae'n fyd anodd a chystadleuol ond dwi'n mwynhau beth dwi yn ei wneud," meddai.

Dywedodd y beirnad fod y gwaith buddugol "yn gofyn am berfformiwr profiadol a deheuig, gan fod yna adrannau cymhleth gyda newidiadau pedal heriol iawn ar adegau".

Ychwanegodd Mr Jones: "Ond dyma waith estynedig sydd yn dangos craffter a chrefft."

Derbyniodd Ms Llwyd wobr academaidd ac ysgoloriaeth berfformio i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru Bangor gan raddio'r llynedd.

Dywedodd fod ei darlithwyr, Pwyll ap Sin a Guto Puw, wedi ei hannog i gyfansoddi a'i fod wedi bod yn fraint cael astudio'r delyn gydag Elinor Bennett a'r piano gydag Iwan Llewelyn-Jones.

Mae cystadlu mewn eisteddfodau bach a mawr wedi bod yn rhan o fywyd Glian ers yn dair oed.

Enillodd yr unawd offerynnol yr Eisteddfod yr Urdd ddwywaith gyda'r piano.

Roedd yr holl gystadlu yn brofiad gwerthfawr wrth iddi ymgeisio am Ysgoloriaeth Bryn Terfel y llynedd.

Mae hi hefyd yn gyfeilydd i Gr Cofnod ers blwyddyn ac mae'n ymfalcho iddi fod yn un o'r disgyblion cyntaf yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon, gan fod y lle yn rhan bwysig o ddatblygiad ei gyrfa.

Erbyn hyn mae hi'n hyfforddi yno ar y piano ar delyn, ac ym mis Medi bydd yn dilyn cwrs perfformio l-radd ar y piano mewn coleg cerdd yn Llundain.

Meistr y Ddefod oedd Robat Arwyn.

Cafodd Medal Grace Williams ei rhoi'n wobr gan Gr Rhuthun a'r Cylch ynghyd rhodd o 100 gan Ymddiriedolaeth Pendyrus.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^