BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 2 Mehefin 2006, 12:33 GMT 13:33 UK
Gwrthwynebu mast ffn
Llanfair-ym-Muallt
Dydi ymgyrchwyr ddim am weld mast yn cael ei godi

Mae grŵp gweithredu wedi cael ei sefydlu er mwyn brwydro yn erbyn cynlluniau i godi mast ffn symudol yng nghanol un o drefi Powys.

Mae Cymdeithas Llanfair-ym-Muallt yn Erbyn Mast Ffn yn bygwth cynnal gorymdaith fel protest ac maen nhw wedi dechrau casglu enwau ar ddeiseb.

Bwriad Hutchinson 3G ydi codi mast 12.5 medr (41 troedfedd) ar Sgwr y Banc yng nghanol y dref er bod yna wrthwynebiad lleol oherwydd pryderon iechyd.

Dywed y cwmni nad oes yna "effeithiau wedi eu profi" o'r offer sy'n cael ei ddefnyddio.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae 'na gyfres o brotestiadau wedi bod trwy Brydain yn erbyn codi'r mastiau wrth i gwmnau ffn ehangu'r rhwydweithiau.

"Byddwn yn cychwyn deiseb pan fydd y cwmni yn cyflwyno'r cais i'r cyngor," meddai Ralph Ollermann, cadeirydd y grŵp.

"Fe fydd ganddon ni fyrddau ar strydoedd y dref yn casglu enwau ac eisoes mae ganddon ni 60 o enwau."

Dywedodd Mike Dobson o gwmni Hutchinson 3G nad oes manylion wedi eu llunio am leoliad y mast.

"Rydym yn y broses o edrych ar yr ardal ac mae Sgwr y Banc yn un opsiwn ond rydym yn edrych ar yr ardal gyfan," meddai.

"Mae angen i ni gynnig gwasanaeth ar gyfer safle'r Sioe Frenhinol a'r dref ei hun."

Ychwanegodd os ydi Sgwr y Banc yn cael ei ddewis yna fe fyddai'n rhaid i'r cwmni gynnig cais cynllunio.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^