BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 2 Mehefin 2006, 13:12 GMT 14:12 UK
Gwobr loteri o 2.6m i oriel
Oriel Mostyn, llun gan Ellis Williams architects
Byddai golau naturiol yn cael ei ddefnyddio yn un o'r lleoedd arddangos newydd

Fe fydd Oriel Mostyn yn Llandudno yn derbyn gwobr o 2.6m gan y loteri.

Bydd yr arian, a gafodd ei gyhoeddi ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun ddydd Gwener, yn helpu i ariannu cynlluniau i ddyblu'r gofod arddangos.

Dywedodd Gweinidog Diwylliant y Cynulliad, Alun Pugh, fod yr oriel yn un o nifer o safleoedd diwylliannol cyffrous sy'n datblygu yng Nghymru.

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau'n gynnar yn 2007 ond mae'n rhaid codi 1m ychwanegol er mwyn i'r prosiect fynd yn ei flaen.

Byddai'r cynllun ehangu yn rhoi tri gofod arddangos newydd i'r oriel, lle i fyfyrwyr a disgyblion yn ogystal ag ystafell gyfarfod, caffi a mwy o le ar gyfer siop grefftau.

Tŵr Aur

Byddai mwy o ofod ar gyfer storio a fyddai'n galluogi'r oriel i fenthyg mwy o weithiau o gasgliadau mawr.

Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys gofod arddangos newydd wedi ei oleuo golau naturiol a gorchuddio tŵr yr adeilad mewn graean lliw aur i'w wneud yn adeilad trawiadol yn Llandudno.

Byddai gwedd allanol yr adeilad yn cael ei adnewyddu hefyd.

Dywedodd cyfarwyddwr yr oriel, Martin Barlow: "Mae hyn yn newyddion gwych i Oriel Mostyn a'i ddilynwyr.

Oriel Mostyn, llun gan Ellis Williams architects
Byddai tŵr yr adeilad yn cael ei orchuddio mewn graean lliw aur

"Mae gennym ni gyfle gwych i ddatblygu ein cynulleidfa a'n henw da ymhellach a chynnig y gorau mewn celf Gymreig a rhyngwladol i bobl Cymru, yn arbennig y nifer fawr o bobl o'r gogledd sy'n ymweld 'n harddangosfeydd," meddai.

"Mae gennym ni her fawr o'n blaenau o hyd o ran codi arian ond mae'r wobr hon yn rhoi hyder i ni y byddwn ni'n llwyddiannus."

Dywedodd y weinyddwraig Mary Heathcote ei bod yn gobeithio y bydd pobl Llandudno yn gwerthfawrogi'r tŵr o liw aur.

"Does dim adborth negyddol wedi bod o gwbl," meddai.

Os yw'r prosiect yn mynd yn ei flaen bydd yr oriel yn ailagor yng ngwanwyn 2008.




HEFYD:
Casgliad dwy chwaer yn l ym Maldwyn
01 Mai 06 |  Newyddion
Cnoi cil ar waith celf newydd
25 Ebr 06 |  Newyddion
Cyfle prin i brynu lluniau meistri
22 Ebr 06 |  Newyddion
Pryder am ddyfodol oriel gelf
10 Maw 06 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^