BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 1 Mehefin 2006, 13:48 GMT 14:48 UK
Mwy o heddlu wedi saethu
Heddlu y tu allan i glwm nos Wish yng Nghaerdydd
Agorodd clwb nos Wish yn ddiweddar yn Stryd yr Eglwys

Fe fydd mwy o swyddogion yr heddlu yn plismona canol dinas Caerdydd dros y penwythnos wedi achos o saethu mewn clwb nos prysur.

Mae dyn 18 oed o Fryste mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ar ôl cael ei saethu yn ei stumog yng nghlwb nos Wish yn Stryd yr Eglwys.

Dywed Heddlu De Cymru eu bod yn dal i geisio siarad â'r 300 o bobl oedd yn y clwb adeg y saethu.

Cafodd dyn 18 oed ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth.

Dros y penwythnos fe fydd plismyn ychwnanegol yn patrolio strydoedd Caerdydd ac yn siarad â phobl allai fod wedi bod yn y ddinas pan gafodd y dyn ei saethu.

Mae'r tîm ymchwilio eisiau siarad â phobl oedd yn y clwb o gwmpas 0315 fore Sul diwetha.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Debbie Cooper: "Rydym yn ymchwilio i'r drosedd yma ac yn erfyn ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.

"Hoffwn dawelu meddwl unrhyw un sydd yn teimlo bod ganddyn nhw wybodaeth ond sydd ag amheuon ynglŷn â chysylltu â ni, y byddan nhw'n cael cefnogaeth lawn a'u trin yn sensitif."

Er gwaetha'r saethu, mae'r Uwcharolygydd Pat Tucker yn mynnu fod Caerdydd yn "un o ddinasoedd mwya diogel Prydain".

"Fe fydd 'na blismona amlwg iawn dros y penwythnos yma i wneud yn siŵr for pobl y ddinas yn teimlo'n ddiogel - ond hefyd i danlinellu'r neges nad ydyn ni'n godde troseddau arfog yng Nghaerdydd," meddai.

Gofynnir i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i ffonio gorsaf heddlu canol Caerdydd ar 029 2052 7420 neu linell ffôn Taclo'r Tacle, 0800 555 111.


HEFYD:
Saethu: Heddlu'n apelio ar 'dyst'
31 Mai 06 |  Newyddion
Saethu mewn clwb: Rhyddhau dyn
30 Mai 06 |  Newyddion
Saethu mewn clwb: Chwilio am wn
29 Mai 06 |  Newyddion
'Saethu' mewn clwb: Arestio dyn
29 Mai 06 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^