Eurig Salisbury ydi Prifardd Urdd 2006
|
Eurig Salisbury ydi Prifardd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2006 wrth iddo ennill y gadair.
Enillodd Mr Salisbury o Aelwyd Ger y Lli, Aberystwyth, Ceredigion, y wobr am ysgrifennu cerdd gaeth ar y testun Goleuni.
Wrth draddodi'r feirniadaeth ar lwyfan y pafiliwn yn Rhuthun ddydd Iau dywedodd Llion Jones fod y bardd buddugol yn "meddwl a gweld fel bardd" a bod hon yn "gerdd afaelgar".
Daeth hefyd yn ail yn y gystadleuaeth ac roedd Llyr Gwyn Lewis o gylch Arfon, Eryri yn drydydd.
Dim ond pedwar ymgais gafodd eu hanfon i'r gystadleuaeth eleni ac yn ei feirniadaeth dywedodd Dr Jones bod y nifer "yn siomedig".
 |
Meddwl a gweld fel bardd a'i bod yn gerdd afaelgar
|
Roedd tair o'r cerddi yn gerddi caeth ac un ymgais ar y canu rhydd.
Cafodd Mr Salisbury, o dan y ffugenw Mr Anderson, y wobr am gerdd dim mwy na 100 llinell ar y testun Goleuni.
Mae awdl Mr Salisbury yn sôn am gaethiwed bywyd swyddfa a "bodolaeth arwynebol ac ynysig y gweithiwr".
Dywed y beirniaid bod y bardd wedi defnyddio ei grefft i danlinellu syrffed ailadroddus y diwrnod gwaith.
Dywed y beirniaid bod y Prifardd yn "meddu ar lais ffres ac ystwyth".
Dysgu ei hun
Cafodd Mr Salisbury ei eni yng Nghaerdydd ond symudodd y teulu i Langynog, ger Caerfyrddin, pan oedd yn chwech oed.
Mynychodd Ysgol Gynradd y Dderwen ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin, cyn mynd ymlaen i'r coleg yn Aberystwyth i wneud gradd yn y Gymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu.
Cyflwynodd draethawd MPhil yn y Gymraeg ar Ganu Cynnar Guto'r Glyn ychydig fisoedd yn ôl, ac mae'n gobeithio derbyn ei radd yn yr haf.
Mae Eurig Salisbury yn gobeithio parhau i ysgrifennu
|
Ar hyn o bryd mae'n gweithio fel cyfieithydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Dechreuodd gael blas ar farddoniaeth wrth astudio cerddi Dic Jones, Gerallt Lloyd Owen ac eraill yn yr ysgol.
Yn 13 oed dysgodd ei hun i gynganeddu gyda help Clywed Cynghanedd gan Myrddin ap Dafydd ac mae wedi ennill nifer o wahanol wobrwyon mewn eisteddfodau bach a mawr, o gadeiriau'r ifanc yn Llambed i'r englyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, ynghyd â chadeiriau bychain, gan gynnwys tair o gadeiriau'r Eisteddfod Rhyng-golegol.
Daeth yn agos at ennill Cadair yr Urdd o'r blaen, yn cynnwys dod yn gydradd ail â'i hun i'w 'ddisgybl barddol', Hywel Griffiths, yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2004.
Erbyn hyn mae'n dysgu eraill i gynganeddu ac mae'n gobeithio parhau i ysgrifennu ac anelu am yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cadair gyfoes
Dyma'r nawfed flwyddyn yn olynol i gerdd gaeth ennill y gadair.
Meistr y ddefod oedd Peredur Lynch a'r beirniaid eleni oedd Llion Jones a Siân Northey.
Cafodd y gadair ei rhoi yn rhodd gan Ysgolion Uwchradd Sir Ddinbych.
Ian Pickstock o Ddinbych gynlluniodd y gadair a dywedodd ei fod "eisiau i'r gadair fod yn gyfoes, ac i apelio i genhedlaeth newydd, heb fynd dros y top".
"Mae cynllun glân, syml i'r gadair, ac mae hi wedi ei llunio o goed ynn Cymreig lleol."
Fel rhan o'r wobr fe fydd y rhai a ddaeth i'r brig yn derbyn lle ar gwrs ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy.