BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 5 Awst 2006, 09:24 GMT 10:24 UK
Gwobr er cof am arweinydd cr
Noel Davies
Roedd Noel Davies yn arweinydd llwyddiannus iawn

Bydd gwobr yn cael ei chyflwyno i arweinydd buddugol cystadleuaeth Cr yr Ŵyl yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae'r tlws arbennig yn rhodd gan Gillian Evans er cof am ei thad bedydd, Nol Davies, sefydlydd Cr Meibion Pontarddulais ac arweinydd y cr am 41 o flynyddoedd tan 2002.

Bu farw yn Awst 2003 yn 75 oed.

Cafodd Mr Davies ei eni yng Nghwm Tawe a bu'r teulu yn byw yn ardal Pontarddulais a Gorseinon.

Wedi cyfnod yn y llynges aeth i Goleg Harlech a Choleg y Drindod, Caerfyrddin, lle cafodd ei hyfforddi i fod yn athro. Bu'n athro cyn ymddeol.

Roedd Mr Davies a'i wraig Joan yn weithgar yn eu cymuned drwy gydol eu hoes - daeth Mr Davies yn aelod o Orsedd y Beirdd ac yn 1976 cafodd yr MBE am ei wasanaeth i fywyd corawl Cymru.

11 o weithiau

O dan ei arweiniad enillodd Cr Meibion Pontarddulais brif gystadleuaeth corau meibion yn yr Eisteddfod Genedlaethol 11 o weithiau.

Tlws Baton Noel Davies
WE Williams o Bontarddulais wnaeth y tlws

Bu llwyddiant yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Eisteddfod Pontrhydfendigaid, Eisteddfod y Glowyr ym Mhorthcawl a Gŵyl Fawr Aberteifi.

Roedd yn arweinydd ac yn feirniad cenedlaethol ac arweiniodd gyngerdd Mil o Leisiau yn yr Albert Hall, Gymanfa Ganu Gogledd America, a'r Gymanfa Ganu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.

Cefnogodd Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol yn frwd.

Cafodd y tlws, Baton Nol Davies, ei wneud gan W E Williams o Bontarddulais.

"Mae'n addas fod y wobr yn cael ei rhoi am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod yn Abertawe oherwydd bod y lle mor bwysig i Mr Davies," meddai Ms Evans.




Steddfod Genedlaethol 2006

ABERTAWE A'R CYLCH 2006

O'R MAES

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

GWEFAN


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^