BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 1 Mehefin 2006, 11:25 GMT 12:25 UK
Lansio ymgyrch Cymorth Cristnogol
Lansio ymgyrch Dal i Guro
Cafodd yr ymgyrch ei lansio yn yr Eisteddfod

Cafodd ymgyrch Brydeinig Cymorth Cristnogol ar gyfer yr haf ei lansio ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun ddydd Iau.

Mae ymgyrch y mudiad Dal i Guro yn dilyn ymgyrch Rhoi Terfyn ar Dlodi a gynhaliwyd y llynedd.

Roedd y mudiad yn curo'r drwm yn llythrennol yn eu pabell er mwyn tynnu sylw at agweddau o dlodi mewn gwahanol wledydd gyda chasgliad o ddrymiau o'r gwledydd hynny yn cael eu harddangos.

Dywedodd Branwen Niclas o Gymorth Cristnogol bod y mudiad wedi dewis maes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych i gychwyn yr ymgyrch oherwydd ei fod yn gyfle i "ymestyn allan" i bobl ifainc.

Ychwanegodd fod yr ymgyrch newydd sy'n cael ei hadnabod fel "The Beat Goes On" yn Saesneg yn deillio'n uniongyrchol o ymgyrch y llynedd pan gafwyd addewid gan Lywodraeth Prydain na fyddai'n gorfodi masnach rydd ar wledydd tlawd.

"Ond trwy ariannu'r IMF a Banc y Byd mae hi mewn gwirionedd yn dal i wneud hynny," ychwanegodd Ms Niclas.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^