BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 30 Mai 2006, 17:32 GMT 18:32 UK
Enwi Bardd Plant Cymru
Gwyneth Glyn
Dywedodd Gwyneth Glyn y bydd yn defnyddio ei gitār i ennyn diddordeb

Mae Gwyneth Glyn, 26 oed o Lanarmon, wedi ei henwi yn seithfed Bardd Plant Cymru.

Daeth y cyhoeddiad ar lwyfan y pafiliwn yn Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun ar ddiwedd y cystadlu ddydd Mawrth.

Gwyneth Glyn yw bardd plant ieuengaf Cymru hyd yn hyn yn dilyn Myrddin ap Dafydd, Meirion McIntyre Huws, Menna Elfyn, Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan a Mererid Hopwood

Wedi iddi gael ei henwi dywedodd Gwyneth Glyn nad yw hi'n cyfansoddi yn y mesurau caeth.

Ond ychwanegodd y bydd yn defnyddio ei gitār mewn sesiynau a gweithdai i ennyn diddordeb plant mewn barddoniaeth a barddoni.

Cynllun ar y cyd rhwng S4C, Cyngor Llyfrau Cymru, Yr Academi Gymreig ac Urdd Gobaith Cymru yw Bardd Plant Cymru a'r bwriad yw codi proffil barddoniaeth ymysg yr ifanc, a'u hannog i greu a mwynhau cerddi.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^