BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 30 Mai 2006, 14:48 GMT 15:48 UK
Cefnogi ymdrech i brynu clwb Wrecsam
Y Cae Ras (LlunTed Blair)
Mae'r consortiwm yn dweud y bydd yn gwneud yn siwr fod pêl-droed yn parhau ar y Cae Ras

Mae cyfranddalwyr a chredydwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cefnogi'n unfrydol ymdrech gan gonsortiwm, sy'n cael ei arwain gan Neville Dickens, i brynu'r clwb.

Mae'r credydwyr wedi cytuno i gytundeb £3.25m a fyddai'n golygu eu bod yn derbyn tua 28c ym mhob punt sy'n ddyledus iddyn nhw.

Mewn cyfarfod arall pleidleisiodd y cyfranddalwyr - oedd yn cynnwys cyn berchennog y clwb Alex Hamilton - o blaid trosglwyddo'r clwb.

"Dwi'n credu ei bod yn ddiwrnod da iawn i'r clwb. Dwi'n hyderus iawn," meddai rheolwr Wrecsam, Denis Smith.

Gofynnwyd i'r credydwyr a'r cyfranddalwyr i bleidleisio mewn dau gyfarfod gwahanol ar y Cae Ras ddydd Mawrth.

Pleidleisiodd Mr Hamilton, sy'n berchen ar 78% o'r cyfranddaliadau, trwy ddirprwy dros ganiatáu i Mr Dickens, gwerthwr ceir yn Wrecsam, a'i gonsortiwm i brynu'r clwb.

Mae arian yn ddyledus i Mr Hamilton gan y clwb hefyd.

'Goresgyn rhwystrau'

Mae gan y clwb ddyled o dros £5.4m ond cyn belled â bod pêl-droed yn parhau ar y Cae Ras mae cronfa'r loteri Sportlot a'r Sefydliad Pêl-droed yn anhebygol o hawlio ad-daliadau o £1m yr un.

Fe aeth Clwb Pêl-droed Wrecsam i ddwylo'r gweinyddwyr ddiwedd 2004 gyda dyledion o dros £4m.

Cefnogwyr Wrecsam
Mae cefnogwyr Wrecsam wedi ymgyrchu i achub y clwb
Dywedodd Steve Williams, o'r gweinyddwyr Begbies Traynor: "Dwi'n credu ein bod wedi goresgyn pob rhwystr posib.

"O ran y canlyniad allwn ni ddim gwneud yn well na hyn."

Mae gan y clwb hyd at Fehefin 3 i sicrhau cytundeb neu fe allai gael ei ddiarddel o'r Gynghrair Bêl-droed am ei fod wedi bod yn nwylo'r gweinyddwyr am dros 18 mis.

Ond dywedodd Mr Williams ei fod yn obeithiol y byddai'r gynghrair yn ymestyn y dyddiad terfynol gan y cytunwyd ar gytundeb.

"Mae angen caniatâd y Gynghrair Bêl-droed arnon ni o hyd i ymestyn y cyfnod 18 mis," meddai.

"Rydyn ni'n hynod o hyderus y bydd y gwerthu'n digwydd."

Cosb

Unwaith y bydd y cytundeb wedi ei gwblhau Mr Dickens, ei bartner busnes Geoff Moss a'u consortiwm fydd yn berchen ar y clwb.

Cafodd y clwb gosb o 10 pwynt gan y Gynghrair Bêl-droed oherwydd ei sefyllfa ariannol ac o ganlyniad fe syrthiodd y tîm o Adran 1 i Adran 2 ym Mai 2005.

Wedi sawl gwrandawiad llys, dyfarnodd y Llys Apêl yn Llundain yn gynharach eleni mai'r gweinyddwyr ac nid Mr Hamilton ddylai fod yn berchen ar y Cae Ras.

Arweinydd y consortiwm sydd eisiau prynu'r clwb yw'r miliwnydd a'r masnachwr ceir Neville Dickens ac mae'n hyderus y gall gwblhau'r gwerthiant ac mae wedi addo ail-fuddsoddi'r holl elw yn y dyfodol yn y clwb.

Roedd Mr Dickens yn gyfarwyddwr y clwb yn yr 1980au ac mae'n berchen ar garej sydd ar dir drws nesaf i'r Cae Ras.

Fe geisiodd brynu'r clwb yn Ebrill 2005, cam a groesawyd ar y pryd gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam.

Mae Mr Dickens a'i bartner busnes Geoff Moss eisoes wedi cyflwyno cais cynllunio i ddatblygu stadiwm y clwb.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys eisteddle newydd, fflatiau preifat a llety myfyrwyr.




HEFYD:
Wrecsam: Cyfnewid cytundebau
29 Ebr 06 |  Newyddion
Datgelu cynllun clwb pêl-droed
12 Ebr 06 |  Newyddion
Prynu clwb Wrecsam 'o fewn mis'
30 Maw 06 |  Newyddion
Llwyddiant i gefnogwyr y Cae Ras
14 Maw 06 |  Newyddion
Apêl y Cae Ras: Gohirio dyfarniad
14 Chwef 06 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^