BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 29 Mai 2006, 11:18 GMT 12:18 UK
Bore cyntaf Eisteddfod yr Urdd
Alun Edwards, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith
Talodd Alun Edwards, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, deyrnged i weithgarwch pwyllgorau lleol

Cyn 0700 bore dydd Llun roedd cystadleuwyr yn heidio i faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ger Rhuthun.

Cafodd yr Eisteddfod gychwyn da gyda chyngerdd agoriadol nos Sul yn deyrnged i'r gantores Caryl Parry Jones a phob un o'r 1,600 o seddau yn y pafiliwn newydd yn llawn.

Y perfformiad cyntaf yn y pafiliwn oedd y sioe gerdd Plas Du gan Hywel Gwynfryn a Robat Arwyn nos Sadwrn ac un o linellau'r sioe honno a ddefnyddiwyd gan gadeirydd yr Urdd, Rhiannon Lewis, wrth gyfarch y Wasg mewn cynhadledd bnawn Sul, "Creu yfory newydd bob dydd."

Dywedodd y bydd mwy o gystadleuwyr yn Rhuthun yr wythnos hon nag yn y Gemau Olympaidd.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^