Mae'r glöyn byw prin yn ffynnu yng Ngheredigion
|
Mae glöyn byw prin yn ffynnu yng Ngheredigion diolch i waith gan wirfoddolwyr a chyrff cadwriaethol.
Maen nhw wedi bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar gynefin y fritheg berlog ger Cwmtudu.
Mae'r glöyn byw sydd i'w weld ar naw safle yn unig yng Nghymru wedi prinhau 77% dros chwarter canrif.
Ond i ddathlu'r cynnydd yn y nifer o'r glo˙nnod byw yng Ngheredigion mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn lansio cynllun ar ddydd Iau.
Bydd y cynllun yn amlygu'r gwaith sydd ei angen ar gadarnle'r fritheg berlog yng Nghwm Soden i'r gogledd o Gwmtudu.
I barhau â'r cynnydd dywed yr ymddiriedolaeth bod angen rheoli cynefin y glöyn.
Bu staff yr ymddiriedolaeth a chontractwyr arbenigol yn trin y safle.
Maen nhw wedi bod yn cribinio'r rhedyn trwchus sy'n mygu fioledau - prif fwyd lindys y glöyn byw.
Amrywiaeth
"Gyda chymorth ariannol Cyngor Cefn Gwlad Cymru, rydym wedi gallu cyflogi contractwyr a chydweithio â gwirfoddolwyr i'n helpu i reoli'r safle," dywedodd Paul Boland o'r ymddiriedolaeth.
"Wrth helpu'r fritheg berlog mae'r gwaith hefyd yn helpu i gynyddu amrywiaeth y cwm."
Mae'r cynllun gweithredu gan yr ymddiriedolaeth yn rhan o ymgyrch ehangach i wella bioamrywiaeth yng Ngheredigion.
"Datblygwyd Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol yn dilyn Cynhadledd y Ddaear Rio ym 1992," dywedodd Sarah Andrews, swyddog bioamrywiaeth Cyngor Sir Ceredigion.
"Mae'n ddull o wireddu targedau cenedlaethol a monitro rhywogaethau a chynefinoedd o bwysigrwydd cenedlaethol drwy weithredu'n lleol."
Cafodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei sefydlu ym 1895 i ofalu am fannau o ddiddordeb hanesyddol neu harddwch naturiol.
Yng Nghymru mae'n gofalu am fwy na 45,000 hectar o gefn gwlad a 140 milltir o'r arfordir yn ogystal â chestyll a gerddi.