BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 22 Mai 2006, 15:01 GMT 16:01 UK
Urdd: Disgwyl 100,000 o ymwelwyr
Logo'r Urdd

Mae un o wyliau ieuenctid mwya Ewrop ar fin dechrau ac mae disgwyl 15,000 o gystadleuwyr yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yn cael ei chynnal yn nhref Rhuthun ar Fai 29 ac mae disgwyl 100,000 o ymwelwyr dros yr wythnos.

Mae gan yr Eisteddfod amrywiaeth o gyngherddau a gweithgareddau, gan gynnwys drama gerdd 'Plas Du' gan Hywel Gwynfryn a Robat Arwyn.

Bydd ieuenctid y fro yn perfformio'r ddrama ac yn cychwyn y gweithgareddau nos Sadwrn gyntaf yr Eisteddfod.

Mam a merch sy'n gyfrifol am y sioe gerdd gynradd ar nos Fawrth a nos Fercher yn y pafiliwn.

Mae Owain Glyndŵr yn waith gan y gantores Leah Owen a'i merch Angharad Llwyd, sy'n actores ar y gyfres Rownd a Rownd.

Ond mae'r cyngerdd yn y pafiliwn ar y nos Sul yn cynnwys dathliad o waith Caryl Parry Jones, un o gyn ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd.

Prif artist y noson ydi'r tenor Rhys Meirion sy'n byw yn Rhuthun a bydd ensemble o ieuenctid yr ardal yn gwmni iddo a llu o artistiaid lleol.

Rhif ffn y llinell docynnau: 0845 2571 639 neu'r wefan www.urdd.org/eisteddfod




HEFYD
Urdd: Cadarnhau lleoliad 2008
28 Ebr 06 |  Newyddion
Urdd: Galw am newid arwyddair
11 Ebr 06 |  Newyddion
Tocynnau Urdd ar gael ar we
23 Maw 06 |  Newyddion
Y rhod yn troi i lywydd yr Urdd
21 Ion 06 |  Newyddion
Iaith: Mwy o arian i'r Urdd
13 Ion 06 |  Newyddion
Yr Urdd yn mynd i Gaerfyrddin yn 2007
23 Tach 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^