BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 22 Mai 2006, 06:45 GMT 07:45 UK
Arddangos cynllun archfarchnad
Llun pensaer o'r datblygiad yn Y Trallwng (J Ross Developments)
Yn ogystal ag archfarchnad mae'r cynlluniau'n cynnwys lle i unedau manwerthu

Mae cynlluniau i ailddatblygu un o farchnadoedd defaid mwyaf Ewrop i gael eu harddangos yn gyhoeddus.

Bydd manylion y cynlluniau, sydd werth miliynau o bunnoedd, yn cael eu harddangos yn neuadd y dref y Trallwng ddydd Llun a dydd Mawrth.

Deellir fod pedwar o archfarchnadoedd blaenllaw Prydain mewn trafodaethau i godi archfarchnad yn y dref, gyda'r cynlluniau eisoes wedi eu cyflwyno i Gyngor Powys.

Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys lle i unedau manwerthu llai a thŷ bwyta.

Mae pobl fusnes a thrigolion y dref yn cael cyfle i fynegi barn am y cynllun i godi 70,000 troedfedd sgwr o ofod siopa ac archfarchnad.

Hefyd mae cynlluniau i adleoli'r farchnad anifeiliaid lai na milltir i ffwrdd o'i safle presennol yng nghanol y dref.

Dyma'r farchnad undydd fwyaf o'i bath yng Nghymru ac mae'n denu cannoedd o ffermwyr i'r prif arwerthiant ar ddydd Llun.

Llun pensaer o'r datblygiad yn Y Trallwng (J Ross Developments)
Byddai'r datblygiad yn defnyddio 70,000 troedfedd sgwr o'r tir

Dywedodd Cyngor Powys fod yr ymgynghorydd cynllunio White Young Green wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer safle presennol y farchnad.

Fis diwethaf croesawodd Aelod Cynulliad Maldwyn, Mick Bates, y datblygiad posib a dywedodd fod y dref wedi bod ar ei cholled o ganlyniad i adwerthwyr mewn trefi mwy yn Lloegr, fel yr Amwythig a Chroesoswallt, am gyfnod rhy hir.

Yn y cyfamser cadarnhaodd Cyngor Powys fis diwethaf fod yr archfarchnad Tesco wedi prynu marchnad y Drenewydd gerllaw.




HEFYD:
Cynllun archfarchnad i safle mart
14 Ebr 06 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^