BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Mai 2006, 14:42 GMT 15:42 UK
Y Brawd Mawr a'r iaith
Dyma'r tro cyntaf i ddau sy'n siarad Cymraeg fod yn y tŷ

Lai na 24 awr ers mynd i mewn i dŷ Big Brother mae un o'r ddau sy'n siarad Cymraeg wedi ei geryddu am siarad ei famiaith.

Mae'r ddau, y naill o'r gogledd a'r llall o'r de, ymhlith yr 14 sy'n cystadlu am wobr o £100,000 ar ddiwedd y sioe deledu sy'n parhau am dri mis.

Cafodd Glyn Wise, 18 oed o Flaenau Ffestiniog, gerydd oddi wrth lais y Brawd Mawr am siarad yr iaith ag Imogen Thomas, 23 oed o Lanelli, am fod y cystadleuwyr eraill "yn meddwl eu bod yn siarad mewn côd".

Mae llefarydd ar ran Sianel 4 wedi gwadu fod y Gymraeg yn cael ei gwahardd.

"Mae pobl y tŷ yn rhydd i siarad unrhyw iaith sefydledig o'u dewis," meddai llefarydd ar ran y rhaglen.

Nonsens llwyr oedd gwahodd dau Gymro Cymraeg naturiol i gymryd rhan ac yna eu gwahardd rhag siarad eu hiaith gyntaf
Dafydd Morgan Lewis, Cymdeithas yr Iaith

"Ond gall unrhyw drafodaeth y tybir ei bod yn erbyn rheolau'r Brawd Mawr arwain at gosbi.

"Mae'r Brawd Mawr yn amlieithog a phob amser yn gwrando."

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith ei bod yn drist o glywed fod dau Gymro Cymraeg wedi eu rhwystro rhag siarad Cymraeg.

"Nonsens llwyr oedd gwahodd dau Gymro Cymraeg naturiol i gymryd rhan ac yna eu gwahardd rhag siarad eu hiaith gyntaf," meddai'r swyddog ymgyrchoedd Dafydd Morgan Lewis.

"Ydyn ni mewn perygl o gael ein hunain mewn gwladwriaeth lle mae'r Brawd Mawr yn gwylio trosom ac yn penderfynu drosom pa iaith y caniateir i ni ei siarad?"

'Tristwch'

Dywedodd i'r mudiad gwyno wrth Sianel 4, Ofcom, ac S4C.

"Mae'n fater o dristwch i ni fod S4C wedi dewis darlledu'r rhaglen hon, gan mai'r holl bwynt dros fodolaeth y gwasanaeth yw darlledu yn y Gymraeg a hybu'r Gymraeg."

Roedd gweld Glyn yn mynd i mewn i'r tŷ nos Iau wedi synnu rhai o bobl Blaenau Ffestiniog.

"Mae o'n ufflwm o hogyn neis ... Mi o'dd o'n gweithio hefo ni ar Radio Bro Blaenau y gwasanaeth ddaru Radio Cymru ei sefydlu yn y dref," meddai Gwilym Euros Roberts.

Mae pobl y tŷ yn rhydd i siarad unrhyw iaith sefydledig o'u dewis ...
Llefarydd ar ran raglen Big Brother

"O'n i wedi dychryn ei weld o (ar y rhaglen) oherwydd mae 'na hiwmor ffraeth yn perthyn i Glyn ... o'n i wedi meddwl erioed ei fod o'n swil ond doedd dim byd yn swil yn yr hogyn neithiwr."

Dywedodd Mike Evans, pennaeth y chweched yn Ysgol y Strade, Llanelli, lle oedd Imogen yn disgybl, y byddai hi'n gallu ymdopi â'r sylw yn sgîl bod ar y rhaglen.

"Mae'n ferch gall iawn, mae'n ferch sy'n awyddus iawn i lwyddo, ac mae'n ferch wneiff gynnal safonau.

"Dwi ddim yn meddwl y gwneiff hi adael ei hunan i fynd gormod yn Nhŷ'r Big Brother."

Beth yw eich barn chi am geryddu un o'r ddau sy'n siarad Cymraeg am siarad ei famiaith? Anfonwch eich sylwadau drwy lenwi'r ffurflen. Diolch yn fawr.

Enw
Eich cyfeiriad e bost
Tref a Sir
Eich sylwadau

Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.
Efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi gan y BBC drwy'r byd.






Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^