BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 5 Mai 2006, 11:49 GMT 12:49 UK
Iechyd: Cyfarfod siomedig
Ysbytau Maelor, Wrecsam (top) Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan (chwith) ac Ysbyty Gwynedd, Bangor
Y bwriad yw canolbwyntio mwy ar wasanaethau yn ysbytai rhanbarthol y gogledd

Cafodd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Lleol Dinbych yn Llanelwy nos Iau.

Mae nifer yn erbyn canoli gwasanaethau yn y tri phrif ysbyty oherwydd pryderon am effaith ar wasanaethau lleol.

O ganlyniad i hyn mae Cyngor Conwy yn ystyried cynnal refferendwm am y cynlluniau i dorri gwasanaethau yn Ysbyty Llandudno.

Ond siomedig fu'r ymateb yn y cyfarfod cyhoeddus nos Iau - dim ond wyth o aelodau'r cyhoedd oedd yn bresennol.

Yn Chwefror cyhoeddwyd bwriad yr ymddiriedolaeth i gau dau ysbyty - Ysbyty Abergele ac Ysbyty HM Stanley yn Llanelwy a chanoli sgiliau arbenigol yn nhri ysbyty rhanbarthol y gogledd - Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Wrecsam Maelor.

Cafodd y ddogfen ymgynghorol "Cynllun Gogledd Cymru" ei ch yhoeddi i amlinellu newidiadau arfaethedig rhwng y pump a 10 mlynedd nesa.

'Newid defnydd'

"Mae'r cynllun ar hyn o bryd yn sôn am gadw tri ysbyty yn y gogledd a chynyddu'r gwasanaethau yno a newid defnydd yr ysbytai llai," meddai Sally Baxter, cyfarwyddwraig datblygu a rheoli perfformiad bwrdd iechyd lleol sir Ddinbych.

"Byddwn yn edrych ar y ffordd orau ymlaen ar gyfer yr ysbytai llai.

"Rydym yn ystyried cau ysbytai nid gwasanaethau, symud y gwasanaethau i lefydd mwy addas."

Rhaid i sylwadau gyrraedd yr ymddiriedolaeth cyn Mehefin 26.

  • Dydd Gwener cafodd Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Orllewin Cymru, sy'n gyfrifol am Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac Ysbyty Llandudno, ei henwi fel un o 40 prif ysbytai ym Mhrydain.

    Daw'r wobr lai na mis ers i'r ymddiriedolaeth gyhoeddi eu bod wedi cyrraedd pob un o dargedau Llywodraeth y Cynulliad yn ystod y 12 mis diwethaf.

    "Mae hon yn gamp arbennig gan y staff ac rydym yn falch iawn o gael ein henwi fel un o'r 40 prif ysbytai ym Mhrydain am y chweched blynedd yn olynol," meddai Martin Jones, prif weithredwr yr ymddiriedolaeth.




  • HEFYD:
    Cynllun iechyd yn 'peryglu bywydau'
    28 Ebr 06 |  Newyddion
    Ad-drefnu ysbytai: Ymgynghori
    03 Ebr 06 |  Newyddion
    Cyfarfod brys ad-drefnu ysbytai
    17 Maw 06 |  Newyddion
    Cyfarfod i adolygu cynllun iechyd
    14 Maw 06 |  Newyddion
    Adolygiad: Dau ysbyty i gau?
    12 Maw 06 |  Newyddion


    CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^