Cafodd y mosäig ei ddylunio a'i greu gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Parc
|
Mae gwasanaeth coffa wedi ei gynnal yng Nghwm Rhondda ddydd Iau i nodi 65 mlynedd ers i bentre gael ei fomio gan y Natsïaid, ymosodiad a laddodd 27 o bobl mewn dwy res o dai.
Roedd menyw a oroesodd y bomio ac a gollodd naw aelod o'i theulu, Peggy Mars, 84, yn y seremoni yn ysgol gynradd Cwmparc ger Treorci.
Roedd y rhai a laddwyd ar Ebrill 29 1941 yn cynnwys chwech o blant - pedwar ohonyn nhw'n faciwîs.
Ni chafodd y ddwy res o dai eu codi wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Ddydd Iau roedd Mrs Mars yn bresennol wrth i blac gael ei ddadorchuddio.
Stryd Treharne a Stryd Parc yng Nghwmparc a ddioddefodd y gwaetha o'r bomio a laddodd 27 o bobl, gan gynnwys pedwar faciwî o ganolbarth Lloegr.
Roedd Mrs Mars, sydd erbyn hyn yn byw yn Nhreorci, gartre gyda'i theulu noson y bomio ac o fewn oriau roedd hi wedi "colli popeth".
Glaswellt sydd i'w weld erbyn hyn lle yr arferai'r terasau fod
|
Roedd ei mam, oedd yn feichiog ar y pryd, ymhlith y naw aelod o'i theulu a gafodd eu lladd.
Hefyd fe fu farw ei brawd 19-mis-oed, modryb, cefndryd a thri ewythr.
"Ro'n i wedi bod yn hwylio i fynd i'r gwely ac fe ganodd y seiren - fe aethon ni dan y staer," meddai.
"Fe ddaethon ni mas o'na ond fe ganodd y seiren eto ac fe gafodd y stryd ei tharo gan fom dân.
"Fe wnes i golli popeth a'r cwbwl oedd gyda fi oedd y dillad ar fy nghefn.
"Pan rwy'n gweld unrhyw fomio (ar y teledu) a phobl yn cael eu cloddio wedi daeargrynfeydd, rwy'n meddwl yn ôl - dyma beth ddigwyddodd i mi."
Fe wnaeth dau aelod arall o'i theulu oedd yn y stryd oroesi hefyd.
Yn ôl Mrs Mars roedd peth ddyfalu ar y pryd pam y cafodd y pentre ei dargedu.
Cafodd teyrngedau eu talu i'r rhai a fu farw mewn taflen goffa
|
"Dywedodd rhai eu bod yn targedu'r pyllau glo, dywedodd eraill eu bod wedi bod yng Nghaerdydd a'u bod yn gollwng bomiau i ysgafnhau eu llwyth."
Mae cenedlaethau iau'r pentre wedi chwarae rhan allweddol mewn cynllun i greu gardd goffa.
Disgyblion Ysgol Gynradd Parc, ysgol sydd o gwmpas chwartre milltir o safle'r hen derasau, oedd yn gyfrifol am ddylunio a chreu mosäig ar ôl dysgu am hanes y bomio.
"Doedd y plant ddim yn ymwybodol o'r hanes," meddai dirprwy bennaeth yr ysgol David Williams. "Doedd dim senotaff na chofeb yng Nghwmparc i gofio'r meirw.
"Tua 12 mlynedd yn ôl fe wnaethon ni ddechrau addysgu'r plant am y digwyddiad, am y gymuned leol a chofio'r bobl.
"Dechreuodd y plant iau gydweithio â'r grŵp celfyddydau cymunedol i greu'r dyluniad a chreu gardd goffa gyda phlanhigion a llwyni, ychwanegodd.