Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yn dychwelyd i Fae Penrhyn ger Llandudno yn 2008.
Bydd yr ŵyl flynyddol yn cael ei chynnal ar dir Fferm Gloddath Isaf ger Ysgol y Creuddyn ac Ysgol Gynradd Glanwydden.
Cynhaliwyd eisteddfod "eithriadol o lwyddiannus" ar y safle yn 2000 a dywed swyddogon y mudiad ieuenctid eu bod yn edrych ymlaen at ddychwelyd yno yn 2008.
Fe fydd y safle, sydd hefyd ā chysylltiad da gyda'r A55, yn "hwyluso'r daith i ymwelwyr" medd pwyllgor gwaith yr eisteddfod yn Sir Conwy.
Safle 'ardderchog'
Wrth gadarnhau'r lleoliad dywedodd swyddogion yr Urdd eu bod wedi ystyried gofynion technegol, iechyd a diogelwch, cyllidol a gofynion ymarferol nifer o safleoedd o fewn y Sir.
Mae'r fferm ym Mae Penrhyn yn safle delfrydol, medd y swyddogion, sydd wedi profi eisoes i fod yn lleoliad arbennig o hwylus a llwyddiannus i gynnal yr ŵyl.
"Gweithiodd safle Fferm Gloddath Isaf ym Mae Penrhyn yn ardderchog yn 2000," meddai Siān Eirian, cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau Urdd Gobaith Cymru.
"Mae'n agos at Landudno ac yn hawdd cyrraedd oddi ar yr A55.
"Mae'n faes eang a braf gyda chyswllt dwr a charthffosiaeth eisoes ar y cae a chynllun trafnidiaeth wedi ei sefydlu ers yr ymweliad diwethaf.
Ychwanegodd bod yr Urdd yn gwbl ffyddiog mai "dyma'r safle mwyaf addas" ar gyfer cynnal Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru 2008.
Mae'r Eisteddfod eleni yn cael ei chynnal yn Rhuthun, Sir Ddinbych, rhwng Mai 29 a Mehefin 3.