Mae'r rheini a disgyblion yn gwrthwynebu'r cynlluniau
|
Mae cynghorwyr yr wrthblaid ar gyngor Caerdydd wedi gwrthod cynlluniau dadleuol i ad-drefnu ysgolion y brifddinas.
Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol, sy'n arwain y cyngor, yn awyddus i gau 17 o ysgolion fel rhan o'r cynllun.
Ond fe gawson nhw eu trechu wedi trafodaeth am dros dair awr o 38 pleidlais i 28 ddydd Iau.
Y tu allan i'r cyfarfod roedd rhieni wedi bod yn protestio yn erbyn y cynlluniau.
Roedd y cynlluniau yn ymdrin a dros 8,600 o lefydd gwag yn ysgolion y sir oedd yn costio £3m.
Roedd y cynlluniau yn cael eu cefnogi gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Dywed adroddiad gan y swyddfa - gafodd ei gyflwyno i'r cyngor yn gynharach yn y mis - fod y sefyllfa bresennol yn golygu "defnydd aneffeithlon o adnoddau addysg" ac yn "lleihau'r arian ar gael i'w wario ar wella dysgu".
Daeth i'r casgliad bod y cyngor wedi penderfynu'n "gywir" fod angen ymgynghori ar yr ad-drefnu arfaethedig a'i fod wedi ymchwilio i'r sefyllfa'n "deg ac yn gywir".
Cyn y cyfarfod ddydd Iau roedd arweinydd y cyngor, y cynghorydd Rodney Breman, wedi dweud fod adroddiad y swyddfa archwilio yn cyfiawnhau fod y cyngor yn mynd i'r cyfeiriad iawn.
Ond roedd y gwrthbleidiau, sy'n dal 43 o 75 sedd y cyngor, wedi dweud eu bod am bleidleisio yn erbyn y cynlluniau.