BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 27 Ebrill 2006, 16:04 GMT 17:04 UK
Celfyddydau: Cyfarfod cynta panel
Yr Athro Elan Closs Stephens
Yr Athro Elan Closs Stephens yw cadeirydd y panel adolygu

Mae'r panel sy'n cynnal adolygiad annibynnol o waith Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyfarfod am y tro cynta ddydd Iau.

Cafodd y panel ei ffurfio ddiwedd Mawrth pan gyhoeddodd Gweinidog Diwylliant y Cynulliad Alun Pugh benodiad yr Athro Dai Smith fel cadeirydd dros dro'r cyngor.

Roedd y cyfarfod cynta yn Nantgarw yn rhoi cyfle i'r panel, sy'n cael ei gadeirio gan yr Athro Elan Closs Stephens, benderfynu trywydd yr adolygiad.

Mae nifer o wleidyddion a phobl sy'n gweithio o fewn byd y celfyddydau wedi mynegi pryder ynghylch y ffordd y mae Alun Pugh wedi delio â maes y celfyddydau ers iddo beidio ailbenodi cyn gadeirydd y cyngor, Geraint Talfan Davies.

Bu'r panel yn cwrdd yn swyddfeydd Cadw yn Nantgarw brynhawn Iau.

Beth fyswn i'n wir obeithio yw y bydd yna gyfle i bawb sydd â diddordeb i fynegi barn a ydyn nhw gallu ymwneud â'r celfyddydau
Elan Closs Stephens

Mae'r cadeirydd Elan Closs Stephens yn Athro Cyfathrebu a'r Diwydiannau Creadigol yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn gyn gadeirydd S4C.

Aelodau eraill y panel adolygu yw:

  • Roger Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr ITV Cymru;

  • Paul Loveluck, llywydd Amgueddfa Cymru;

  • Vicky Macdonald, cyn guradur Academi Cambrian yng Nghonwy;

  • Yr Athro M Wynn Thomas, cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Iaith a Llenyddiaeth Seisnig Cymru yn Abertawe;

  • Alan Watkin, prif swyddog hamdden, llyfrgelloedd a diwylliant Cyngor Sir Wrecsam.

    Gorchwyl eang

    Dywedodd Ms Closs Stephens bod gorchwyl y panel yn eang iawn, "yn ehangach o bosib nag edrych ar Gyngor y Celfyddydau.

    "Mae o hefyd yn edrych ar y modd y mae llywodraeth Cymru yn ariannu'r celfyddydau, y modd y mae posib i lais democrataidd fod yn rhan o'r broses, er da neu er drwg," meddai. "Dyna ydan ni i fod i farnu, hefyd y dimensiwn rhyngwladol."

    Dywedodd fod yr adolygiad yn rhoi'r cyfle cynta ers blynyddoedd "i gael sgwrs go iawn am y ffordd y mae Cymru'n delio â'r celfyddydau" a bod cyfle i bawb fynegi barn gan fod "pawb yn drethdalwr ac yn talu am y celfyddydau".

    "Mae o'n orchwyl enfawr a dwi'n mawr obeithio y byddan ni wedi dod i ben a rhoi rhyw fath o adroddiad deallus erbyn diwedd y flwyddyn."

    "Beth fyswn i'n wir obeithio yw y bydd yna gyfle i bawb sydd â diddordeb i fynegi barn a ydyn nhw gallu ymwneud â'r celfyddydau yn ddearyddol ym mhle maen nhw ac ar y lefel sy'n eu siwtio nhw."

    Ansicrwydd

    Mae cryn ansicrwydd wedi bod ynghylch dyfodol y cyngor wedi i Brif Weinidog y Cynulliad, Rhodri Morgan, gyhoeddi yn Nhachwedd 2004 y byddai'r cyngor yn colli rhai o'i gyfrifoldebau.

    Dai Smith
    Yr Athro Dai Smith yw cadeirydd dros dro Cyngor y Celfyddydau

    Pryder y gwrthbleidiau ac unigolion sy'n gweithio o fewn y maes yw y bydd diwedd ar y drefn ariannu hyd braich yn arwain at ymyrraeth gwleidyddol fyddai'n amharu ar ryddid i fynegi barn mewn gweithiau celfyddydol.

    Cododd anghydfod ym mis Ionawr pan honnodd Geraint Talfan Davies iddo gael ei ddiswyddo i bob pwrpas wedi i Mr Pugh ddweud ei fod yn dymuno penodi cadeirydd newydd fyddai'n sicrhau fod y celfyddydau o fewn cyrraedd pobl mewn ardaloedd llai breintiedig.

    Cafodd yr Athro Dai Smith ei benodi'n gadeirydd dros dro Cyngor Celfyddydau Cymru ar Fawrth 28.

    Roedd y gwrthbleidiau wedi bod yn pwyso ar y gweinidog diwylliant i gadarnhau'r amserlen ar gyfer penodi olynydd i Geraint Talfan Davies unwaith y daeth ei dymor o dair blynedd i ben ddiwedd Mawrth.

    Dywedodd Mr Pugh bod "angen trefniant dros dro" o ganlyniad i'r adolygiad hyd nes y bydd y "ffordd ymlaen yn glir ar gyfer dechrau'r broses benodi'n llawn".

    Cyflwynodd y Ceidwadwyr gynnig i geryddu Mr Pugh am y ffordd y mae wedi delio â'r sefyllfa ond fe gafodd ei drechu gan aelodau'r Cynulliad.




  • HEFYD:
    Pugh: Cynnig o gerydd yn methu
    06 Ebr 06 |  Newyddion
    Pugh: 'Amau rheswm am gynnig'
    03 Ebr 06 |  Newyddion
    Celfyddydau: Cadeirydd dros dro
    28 Maw 06 |  Newyddion
    Celfyddydau: Pryder am swydd wag
    19 Maw 06 |  Newyddion
    Grantiau celfyddyol: 'Ffafriaeth'
    16 Ion 06 |  Newyddion
    'Y celfyddydau'n bwysig i bobl Cymru'
    10 Tach 05 |  Newyddion
    Dileu tri chwango arall
    30 Tach 04 |  Newyddion


    CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^