Gorymdeithio: Bu rhieni a disgyblion yn protestio
|
Mae ymgyrchwyr addysg Gymraeg yn poeni na fydd y ddarpariaeth yn y brifddinas yn ehangu.
Ar hyn o bryd mae'n ymddangos na fydd cynllun Cyngor Caerdydd i ad-drefnu ysgolion yn cael ei weithredu oherwydd mae'r gwrthbleidiau am bleidleisio yn erbyn y cynllun ddydd Iau.
Roedd y cyngor am gau chwe ysgol uwchradd ac 11 ysgol gynradd am fod 8,000 o leoedd gwag yn ysgolion y brifddinas.
Dywedodd Michael Jones o fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RHAG) fod y posibilrwydd y byddai'r cynllun yn cael ei wrthod yn creu "pryder mawr".
Cau ysgolion
"Roedd cyhoeddi'r cynllun y peth gorau i ni ei glywed mewn 25 mlynedd o ymladd dros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd.
"Mae addysg Gymraeg wedi mynd o argyfwng i argyfwng gyda phlant yn cael eu dysgu mewn cabanau a nawr o'r diwedd mae rhywun yn ddigon goleuedig i gyflwyno cynllun 10 mlynedd."
Ond gwadodd Delme Bowen, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor, y byddai gwrthwynebu'r cynllun yn effeithio'n negyddol ar dwf addysg Gymraeg.
 |
Roedd cyhoeddi'r cynllun y peth gorau i ni ei glywed mewn 25 mlynedd o ymladd dros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd
|
Dywedodd fod cynghorwyr y blaid wedi penderfynu gwrthwynebu'r cynllun am ei fod "yn annigonol o safbwynt addysg Gymraeg".
"Un o'r goblygiadau yw y bydd tua 20 o ysgolion yn cau ac mae polisi cenedlaethol Plaid Cymru yn erbyn cau ysgolion bychain mewn ardaloedd difreintiedig.
"Elfen arall yw y gall y cynllun greu polareiddio o safbwynt yr ysgolion Saesneg a gwrthdaro drwy roi iaith yn erbyn iaith.
"Ry'n ni'n pwyso am drydedd ysgol uwchradd Gymraeg yn nwyrain y ddinas ond dy'n ni ddim yn fodlon ar gau ysgol (Saesneg) i'w chreu ... gallai greu adwaith poenus."
'Dim arian'
Roedd y grŵp, meddai, yn galw "am wneud nifer y dosbarthiadau yn llai a lle mae'n bosib uno ysgolion babanod a chynradd gan arbed tua £1m o bunnau y flwyddyn ... mae'r cynllun ar hyn o bryd yn brin ar yr ochr ariannol".
Ond dywedodd Mr Jones na fyddai dosbarthiadau llai yn gweithio.
 |
... gall y cynllun greu polareiddio o safbwynt yr ysgolion Saesneg a gwrthdaro drwy roi iaith yn erbyn iaith.
|
"Dyw'r arian ddim yna i dalu am ddosbarthiadau llai ... mae dosbarthiadau llai i addysg Saesneg yn golygu dosbarthiadau mwy i addysg Gymraeg.
"Mae'r ysgolion Cymraeg yn orlawn a'r ysgolion Saesneg yn hanner gwag."
Dywedodd y cyngor fod rhaid gweithredu cynllun i gau 17 o ysgolion ac agor pump o rai newydd er mwyn delio â nifer y lleoedd gwag mewn ystafelloedd dosbarth.
Bydd cynnig gerbron y cyngor ddydd Iau i gychwyn cyfnod swyddogol o ymgynghori cyhoeddus.
Ond mae cynghorwyr Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn dweud na fyddan nhw o blaid y cynnig.
'Dosbarthiadau gwag'
Os yw'r gwrthbleidiau'n ennill y bleidlais, bydd rhaid i'r Democratiaid Rhyddfrydol sy'n rheoli'r cyngor roi'r gorau i'r cynllun.
Dywedodd y Cynghorydd Elgan Morgan, aelod o fwrdd gweithredol y cyngor, y byddai rhaid i'r bwrdd ystyried yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf beth fyddai angen ei wneud i wella sefyllfa'r ysgolion yng Nghaerdydd.
"Rhaid i ni gofio fod y sefyllfa o ddosbarthiadau gwag yn parhau ... mae plant yn parhau i gael eu dysgu mewn cabanau, yn parhau i gael eu dysgu mewn ysgolion sydd angen £60m i wella eu safon a does dim digon o ysgolion Cymraeg ganddon ni yng Nghaerdydd.
"Felly mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth," meddai.
"Hyd nes y cafodd y cynllun ei gyhoeddi roedd pawb y tu ôl iddo," meddai.
"Dyw cau ysgolion byth yn rhywbeth braf ond mae'n rhaid cofio ein bod yn ceisio gwneud hyn i wella addysg plant Caerdydd."