BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 23 Ebrill 2006, 09:23 GMT 10:23 UK
Pum gwobr yn donic i'r doctor
Billie Piper a Christopeher Eccleston o gyfres gynta Doctor Who ar ei newydd wedd
Cyfres gynta Doctor Who ar ei newydd wedd enillodd y pum gwobr nos Sadwrn

Cipiodd BBC Cymru 18 tlws yng ngwobrau ffilm a theledu BAFTA Cymru nos Sadwrn.

Roedd hi'n noson llwyddiannus iawn i dīm cynhyrchu'r gyfres deledu Doctor Who a enillodd bum gwobr gan gynnwys y gyfres ddrama orau.

Fe enillodd nifer o raglenni ffeithiol y gorfforaeth wobrau hefyd gyda'r rhaglen Gwynfor: Yr Aelod dros Gymru? yn ennill gwobr Gwyn Alf Williams.

Y newyddiadurwraig Siān Williams a'r cyflwynydd teledu Rhodri Ogwen Williams a lywiodd y seremoni yn Arena Rhyngwladol Caerdydd.

Dychwelodd y gyfres Doctor Who ar ei newydd wedd y llynedd wedi bwlch o 16 mlynedd gyda Christopher Eccleston a Billie Piper yn y ddau brif ran.

RHAI O ENILLWYR 2006
Tīm Darllediad Allanol: Y Clwb Rygbi (BBC Cymru)
Adloniant Ysgafn: Jonathan (Avanti i BBC Cymru)
Animeiddiad: Colin and Cumberland (BBC Cymru)
Rhaglen Nodwedd: Popeth yn Gymraeg
Rhaglen Ieuenctid: Uned 5
Newydd ddyfodiad: Mari Lovgreen, Uned 5
Y Cyfryngau Newydd Gorau o Fewn Ffilm neu Deledu: Meees
Actores Orau: Helen Griffin, Little White Lies
Actor Gorau: Brian Hibbard, Little White Lies

Daeth y gyfres i'r brig yn y categorļau ar gyfer y gyfres ddrama, cyfarwyddwr drama, cyfarwyddwr ffotograffiaeth, gwisgoedd a cholur.

Prif awdur a chyfarwyddwr gweithredol y gyfres Russell T Davies, sy'n hanu o ardal Sgeti, Abertawe, a gafodd ei anrhydeddu ā Gwobr Siān Phillips.

Rhoddir y wobr honno i'r Cymro neu'r Gymraes sydd wedi gwneud y cyfraniad mwya sylweddol yn y maes ffilm a theledu.

Enillodd y gyfres ddogfen Tribe dair wobr, gan gynnwys un i'r cyflwynydd Bruce Parry, ac fe enillodd y ddrama Dad ddwy wobr.

Rhaglen a gynhyrchwyd gan Adran Materion Cyfoes BBC Cymru i S4C a enillodd Wobr Gwyn Alf Williams, sy'n cael ei dyfarnu i'r rhaglen neu gyfres ddogfen sy'n cyfrannu orau at ddealltwriaeth o hanes Cymru.

Portread o'r diweddar Gwynfor Evans oedd Gwynfor Yr Aelod Dros Gymru?, rhaglen yn pwyso a mesur cyfraniad llywydd cynta Plaid Cymru trwy gyfweliadau gyda aelodau o'i deulu, ffrindiau, gwleidyddion a gelynion.

Llun teuluol o Gwynfor Evans
Roedd y rhaglen am Gwynfor Evans yn cynnwys lluniau prin o'r gwleidydd gyda'i deulu

Awdur cofiant Gwynfor Evans, Rhys Evans, sef gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, a ymchwiliodd i'r gyfres deledu.

Dyma oedd un o 13 wobr gafodd eu dyfarnu i raglenni gafodd eu darlledu ar S4C.

Rhaglen ddogfen Nōl I Ethiopa yn olrhain taith y newyddiadurwr Tweli Griffiths wrth iddi chwilio am fachgen y ddaeth ar ei draws wrth ohebu am newyn yn y wlad 20 mlynedd ynghynt, enillodd y wobr am y rhaglen materion cyfoes orau.

Roedd gwobrau hefyd i'r rhaglenni Popeth yn Gymraeg, lle y bu'r bardd Ifor ap Glyn yn cyflawni gwahanol dasgau heb droi i'r Saesneg, Uned 5, y gyfres feithrin Meees a Jonathan.

Cafodd y tlws am y golygydd gorau ei roi i Wendy Richards, a fu farw'r llynedd, am ei gwaith ar y gyfres ddrama Con Passionate.

Ffilm gerddorol ddwyieithog Y Lleill gafodd ei dyfranu'r ffilm orau.




HEFYD:
Doctor Who yn ōl ar y sgrīn
16 Ebr 06 |  Newyddion
Doctor Who yn teithio i America
12 Ion 06 |  Newyddion
Gwynfor: 'Meseia' neu beidio?
06 Rhag 05 |  Newyddion
Gwynfor: Archif brin
05 Rhag 05 |  Newyddion
'Camp Lawn' i Ifans
25 Ebr 05 |  Newyddion
Tennant yn y Tardis
16 Ebr 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^