Roedd Huw Roberts yn teithio llawer i chwilio am dalent i Man U
|
Bu farw un o sgowtiaid enwoca Clwb Pêl-Droed Manchester United, Huw Roberts, nos Fawrth.
Roedd yn 84 oed ac yn byw yn Y Groeslon ger Caernarfon.
Mr Roberts oedd yn gyfrifol am ddarganfod rhai o dalentau mawr y gogledd a sicrhau enwogrwydd iddyn nhw yn Old Trafford.
Ymhlith y rhai y gwnaeth eu darganfod y mae Mark Hughes, yr hogyn o Riwabon aeth yn un o gewri Manceinion, Barcelona a Chymru.
Roedd Mr Roberts yn wyneb cyfarwydd iawn ar gaeau pêl-droed ar hyd y gogledd ac yn chwilio am dalent i'r clwb yr oedd yn ei garu.
Heb os ei ddarganfyddiad enwoca oedd cyn ymosodwr y clwb a rheolwr Cymru, Mark Hughes.
Bu Mr Roberts yn sgowt am ddegawdau i'r clwb ac roedd yn dal i weithio i'r tîm yn achlysurol.
Un oedd wedi ei gyfarfod ar sawl achlysur oedd y sylwebydd pêl-droed, Nic Parri.
"Yr hyn sy'n arbennig am y newyddion ac sy'n crynhoi Huw ydi bod hyn yn mynd i fod yn newyddion trist mewn cymaint o wahanol agweddau o fywyd, yn ei filltir sgwâr ac ymysg ei deulu."
'Dyn pêl-droed'
Dywedodd bod ei enw yn ymestyn yn bell iawn.
"Dwi'n gwybod heddiw y bydd Mark Hughes, Ryan Giggs a Syr Alex Ferguson i gyd yn teimlo'r tristwch.
"Dyma rai o'r cannoedd ar gannoedd sydd wedi bod yn agos iawn ato.
Cafodd Mark Hughes ei ddarganfod gan Mr Roberts
|
"Dyn ei bobl a dyn pêl-droed oedd o hefyd."
Eglurodd y byddai rhywun yn gwybod y byddai'n cael sgwrs am bêl-droed gyda fo a bod ganddo farn a oedd "weithiau yn gignoeth a dadleuol, ond yn farn oedd wedi ei selio ar fyw ymhlith y rhai oedd yn wybodus neilltuol yn y maes".
Dywedodd mai'r profiad mwya difyr yn ei gwmni oedd cael mynd i Old Traffod ar wahoddiad y clwb i wneud erthygl amdano.
"Fe ges i ddwy awr a hanner yn ei gwmni o a Syr Alex, yn ystafell y rheolwr," meddai.
"Yng nghanol ei brysurdeb roedd Alex yn gwbl gwbl hapus i son am bêl-droed a Huw.
"Roedd yn amlwg bod y dyn mawr yma yn meddwl y byd o Huw Roberts a'i fod yn cydnabod bod gan y clwb ddyled fawr iawn iddo."
Mae Mr Roberts yn gadael gweddw a phedwar o blant.