BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 19 Ebrill 2006, 12:58 GMT 13:58 UK
Mwy o ysgolion gwledig i gau?
Rhieni yn protestio
Mae rheini wedi bod yn protestio yn erbyn cynlluniau'r sir

Mae'n ymddangos fod tair ysgol gynradd wledig gam yn nes at gau oherwydd gormod o lefydd gwag.

Ddydd Mercher cytunodd pwyllgor gweithredol Cyngor Sir Gâr i ddechrau'r broses yngynghori sy'n debygol o gau'r tair ysgol o dan fygythiad sef Cwmgwili, Mynyddcerrig a New Inn.

Yn ôl yr awdurdod addysg does digon o ddisgyblion yn yr ysgolion ac mae problemau wrth ddenu uwchathrawon.

Ond mae rhieni wedi addo parhau i frwydro yn erbyn cau'r ysgolion ac mae rhieni-lywodraethwyr wedi dweud fod y cyngor wedi anwybyddu eu barn.

Gostyngiad

Rhan yw hon o gynllun 10-mlynedd allai arwain at newidiadau yn addysg y sir.

O dan y cynlluniau gallai hyd at 32 o ysgolion gau ac ysgolion ardal "arbennig" gael eu hagor yn eu lle.

Bu tua dwsin o bobl yn picedu cyfarfod y cyngor ddydd Mercher gan brotestio'n erbyn cynigion yr awdurdod addysg.

Ond yn y siambr fe fynnodd yr awdurdod nad oes modd cynnal ysgol â chyn lleied o blant ar sail riannol nag addysgiadol.

Mae rhai rhieni yn ystyried dysgu eu plant gartref
Suzanne Morgan

10 disgybl yn unig sydd yn Ysgol Cwmgwili sy'n debygol o gau erbyn Ionawr 2007.

Doedd Ysgol New Inn ddim yn un o'r ysgolion gwreiddiol i gau ond mae nifer y disgyblion yn gostwng. Ni wnaeth neb ymgeisio am swydd y pennaeth yn ddiweddar.

"Trafodaeth ddifrifol"

Ac, yn diweddar, ymddeolodd pennaeth Ysgol Mynyddcerrig lle mae 13 o ddisgyblion a chyflwynwyd "mesurau arbennig" ar yr ysgol wedi adroddiad y corff arolygu Estyn.

Dywedodd Matt Dicks, rhiant lywodraethwr yn yr ysgol, ei fod yn "drist" ei fod yn clywed am y cynlluniau i gau cyn i'r corff llywodraethol gael gwybod.

Disgyblion o Ysgol Mynyddcerrig yn protestio
Mae Ysgol Mynyddcerrig wedi bod o dan fygythiad ers peth amser

"Mae'n ofnadwy i feddwl ... y cynta yr ydym yn ei wybod am y sefyllfa yw oddi wrth ohebwyr."

Dywedodd un rhiant, Suzanne Morgan, nad oedd palmant o'i chartref i'r ysgol agosaf ac nad oedd yn ddiogel.

"Mae rhai rhieni yn ystyried dysgu eu plant gartref tra bod eraill yn gorfod eu hanfon dair milltir i'r ysgol agosaf ac mae 'na ormod o geir ar ein ffyrdd yn barod."

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eu bod am ddosbarthu "miloedd" o daflenni yn erbyn y cynlluniau.

Honnodd eu llefarydd, Angharad Clwyd, nad oedd gan y cyngor "fwriad gwirioneddol" i drafod y cynlluniau.

"Dyma adlais o'r modd y gwnaeth y llywodraeth gynllwynio i gau'r pyllau glo yn yr un ardal."




HEFYD:
Ysgolion: Bron 76,000 o leoedd gwag
06 Ebr 06 |  Newyddion
Ysgolion cynradd i gau
24 Ion 06 |  Newyddion
'Hyd at 200 o ysgolion i gau'
05 Ebr 05 |  Newyddion
Cau ysgolion: 'Barod i drafod'
03 Meh 05 |  Newyddion
Cau ysgolion: Cyhoeddi amserlen
31 Mai 05 |  Newyddion
Cau ysgolion: Mudiadau'n uno
17 Mai 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^