Sony oedd un o'r cwmnïau cynta o Japan i sefydlu yng Nghymru
|
Mae ffatri Sony ym Mhen-coed ger Pen-y-bont wedi cael ei phrynu fel rhan o gytundeb sy'n werth £83m.
Cyhoeddodd y cwmni electroneg ym Mehefin y byddai ffatri Pen-coed ac ail ffatri ym Mhen-y-bont yn cau a 650 o bobl yn cael eu diswyddo.
Oherwydd cytundeb â Macquarie Global Property Advisors (MGPA) bydd Sony'n gosod ar brydles hanner safle Pen-coed.
Yn y cyfamser, mae 100 o swyddi yn cael eu creu ym Mhen-y-bont gan gwmni gwasanaethau ariannol o Nottingham.
O dan y cytundeb â MGPA, mae Sony wedi gwerthu wyth eiddo yn Ewrop a bydd yn gosod ar brydles 65% o'r safleoedd, gan gynnwys hanner y ffatri 800,000 o droedfedd sgwâr ym Mhencoed ger yr M4.
Cafodd y ganolfan dechnoleg ei chodi ym Mhen-coed yn 1993 ac mae'n ymestyn dros 57 erw.
Safle Sony ym Mhencoed o'r awyr
|
Dywedodd uwch is-lywydd Sony Derry Newman fod y cwmni wedi cyflawni "gwelliannau sylweddol" i'w system gyflenwi Ewropeaidd a bod dim angen yr holl adeiladau ar y cwmni.
"Cafodd y safle cyfan ei godi i safon uchel ac mae wedi ei leoli'n amlwg wrth ymyl yr M4," meddai un o'r partneriaid Chris Sutton.
'Gweithlu medrus'
Yn Rhagfyr cyhoeddodd Sony y byddai'n gwerthu ei ffatri ym Mhen-y-bont i ddatblygwr fyddai'n paratoi ar gyfer unedau busnes llai a stordai.
Yn y cyfamser, cafodd ardal Pen-y-bont hwb ddydd Mawrth am fod cwmni o Nottingham, Jigsaw, wedi trefnu prydles 10-mlynedd cyn sefydlu canolfan alwadau.
Bydd yn creu 100 o swyddi gyda chymorth grant Llywodraeth y Cynulliad.
Mae'r cwmni wedi dechrau recriwtio gweithwyr ar gyfer y ganolfan sy'n arbenigo mewn yswiriant a chynnyrch telathrebu.
Dywedodd AC Pen-y-bont Carwyn Jones fod y cwmni wedi cael ei ddenu i dde Cymru "oherwydd gweithlu medrus iawn ... cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol a'r agwedd broffesiynol o ran gwerthu'r manteision hyn".