Mae'r cynlluniau'n cynnwys eisteddle newydd a fflatiau moethus
|
Mae'r dyn busnes sy'n arwain ymdrech i brynu Clwb Pêl-Droed Wrecsam wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio i ddatblygu rhan o'r Cae Ras.
Mae Neville Dickens, deliwr ceir lleol, wedi cyflwyno cais ffurfiol i Gyngor Wrecsam am ganiatâd cynllunio amlinellol.
Ei obaith ef a'r consortiwm sy'n gobeithio prynu'r clwb - sydd yn nwylo'r gweinyddwyr - yw codi eisteddle newydd, fflatiau moethus preifat a llety i fyfyrwyr.
Dywedodd y cyngor y byddai penderfyniad yn cael ei wneud "ar y cyfle cynharaf bosib".
Fe aeth y clwb, sydd yn yr Ail Adran, i ddwylo'r gweinyddwyr yn 2004 gyda dyledion o dros £4m.
Mae'n rhaid iddo gael ei werthu erbyn Mehefin 3, gan y bydd erbyn hynny wedi bod yn nwylo'r gweinyddwyr am 18 mis, neu gallai gael ei ddiarddel o'r Gynghrair Bêl-droed.
Arwyddodd Mr Dickens a'i bartner busnes Geoff Moss gytundeb gyda'r gweinyddwyr sy'n dod i ben ar Ebrill 30 ac mae ganddyn nhw tan hynny i sicrhau eu bod yn prynu'r Cae Ras.
Eisteddle newydd
Credir eu bod am ddatblygu a sicrhau fod y clwb yn gwneud elw unwaith eto cyn gwerthu.
Fel rhan o'r datblygiad arfaethedig byddai Mr Dickens yn dymchwel ei ystafell arddangos ceir ei hun, sydd ar hyn o bryd gerllaw un o gorneli'r cae.
Mae eisoes wedi addo rhoi unrhyw elw yn ôl i'r clwb.
Mae'r cynllun, a gyflwynwyd i'r cyngor ddydd Llun, yn cynnwys cais amlinellol i ddymchwel yr eisteddle dwyreiniol - teras y Kop y tu ôl i'r gôl - a'r ystafell arddangos ceir "i hwyluso datblygiad o ddefnydd amrywiol".
Byddai hyn yn cynnwys fflatiau moethus preifat, llety i fyfyrwyr, lle adwerthu a safle ar gyfer eisteddle newydd.
Dywedir fod cefnogwyr Wrecsam, sydd wedi ymgyrchu i ddiogelu dyfodol y clwb, yn cefnogi Mr Dickens.
'Hyderus'
Gallai dderbyn caniatâd cynllunio amlinellol fod yn allweddol i'w obeithion i brynu'r clwb.
Nid oedd am drafod y cais cynllunio ond dywedir ei fod yn "hyderus".
Cyflwynwyd y syniad o ddatblygu fflatiau moethus a chodi eisteddle arall yn lle'r Kop fel cynllun i achub y Cae Ras gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yng Ngorffennaf 2004.
Ar ôl mynd i ddwylo'r gweinyddwyr cafodd y clwb gosb o 10 pwynt ym mis Mai 2005 oedd yn golygu fod rhaid iddo symud i'r Ail Adran.
Wedi brwydr gyfreithiol hir dyfarnodd y Llys Apêl yn Llundain fis diwethaf mai'r gweinyddwyr, nid y cyn gadeirydd Alex Hamilton, ddylai ddal perchnogaeth o'r tir.