BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 10 Ebrill 2006, 13:59 GMT 14:59 UK
Y cwsmer ola mewn siop deuluol
Siop B J Jones Llanbedr Pont Steffan
Roedd y busnes yn un o siopau amlyca canol tre Llambed

Mae siop sydd wedi bod ym meddiant yr un teulu ers dros 80 mlynedd wedi gwerthu nwyddau i'w chwsmer ola.

Cafodd siop BJ Jones ei sefydlu yn Llanbedr Pont Steffan yn 1921, ond mae'r siop bellach wedi cau oherwydd cystadleuaeth gynyddol o siopau mwy a'r rhyngrwyd.

Bu dim dewis ond cau'r drysau am y tro ola wedi methiant i sicrhau prynwr i'w chymryd drosodd.

BJ Jones yw'r bedwaredd siop deuluol o'i math i gau yng Nghymru yn y ddwy flynedd diwetha.

Roedd i fod i gau'r haf diwetha ond fe benderfynodd y perchnogion i barhau ar agor am ychydig yn hirach.

Hen ffasiwn

Dywedodd Is-gadeirydd Siambr Fasnach Llambed, Matthew Davies, 26 oed, fod cau BJ Jones yn "ergyd", yn enwedig i'r perchennog Bernard Jones.

Ond mae o'n mynnu nad yw'r cam yn adlewyrchu'n ddrwg ar economi'r dref.

Staff B J Jones
Roedd 18 o staff yn wreiddiol yn siop BJ Jones, ond dim ond pedwar erbyn y diwedd

"Mae Bernard yn berson sy'n gwneud dillad yn yr ystyr hen ffasiwn ac yn gymeriad hoffus yn yr ardal," meddai Mr Davies, sy'n berchennog siop bapurau newydd Caxton.

"Mae'n ddiwedd cyfnod ac yn ergyd i'r ardal ond mae'r trigolion lleol wedi cael amser i ddygymod gyda hyn.

"Dwi'n meddwl ei fod yn fwy o ergyd heddiw i Bernard."

Ar ei hanterth roedd y siop, wnaeth groesawu'r cwsmer ola ddydd Sadwrn, yn cyflogi 18 o weithwyr oedd erbyn hyn i lawr i bedwar yn unig.

'Steil'

"Dydi'r cau, dwi'n falch o ddweud, ddim yn adlewyrchiad o economi'r dref," ychwanegodd Mr Davies.

"Doedd gan Bernard neb i gymryd drosodd y busnes a doedd dim modd canfod prynwr.

Perchennog y siop Bernard Jones
Dywed Bernard Jones fod anghenion cwsmeriaid wedi newid

"Mae 'na dystiolaeth bod siopau mawr teuluol o'r math yma yng Nghymru yn cau ac felly mae'n ymwneud a'r math o fusnes yn hytrach na Llambed ei hun."

Y flwyddyn ddiwethaf dywedodd Mr Jones, mab sefydlydd y siop: "Mae pobl yn defnyddio'r we i siopa r?an ac yn mynd i siopau mwy."

Fe wnaeth siop deuluol mwya Cymru, David Evans, gau ar ôl 140 mlynedd yn Abertawe'r llynedd ac felly David Morgan yng Nghaerdydd yn 2004, y flwyddyn yr oedd yn 125 mlwydd oed.

Ym mis Ionawr fe wnaeth siop Dan Evans yn Y Barri gau ychydig wedi iddi ddathlu ei 100 oed.




HEFYD:
Siop fawr: Diwedd cyfnod
20 Ion 05 |  Newyddion



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^