Roedd Menna Gwyn yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru
|
Ar ôl salwch hir bu farw'r ddarlledwraig Menna Gwyn yn 64 oed.
Bu'n llais cyfarwydd ar Radio Cymru am flynyddoedd, gan gyflwyno rhaglenni fel "Gwynfyd" a "Menna a'r Clasuron".
Ar un adeg hi oedd prif-gyhoeddwraig yr orsaf.
Bu'n gyfarwydd i wylwyr teledu fel actores yn y 1970au cynnar ac yn hwyrach fel cyflwynydd newyddion.
Roedd hi'n aelod o gast gwreiddiol Pobol y Cwm.
Roedd yn byw yng Nghaerdydd ac mae'n gadael ei gŵr, Aled Gwyn, a'r plant Non a Rolant a'u teuluoedd.
Dywedodd Frank Lincoln, cyn-bennaeth Adran Gyflwyno BBC Cymru, ei bod yn berson "llawn egni" ac roedd ganddi "lais cyfoethog".
"Roedd hi'n siarad Cymraeg safonol ac yn ysgrifennu sgriptiau da," meddai.
Dyled
"Cyn ymuno gyda'r BBC roedd hi'n actores, ac yn actores lwyddiannus dros ben a dwi ddim yn meddwl y bydd neb yn meindio i mi ddweud ei bod yn ferch bert iawn.
"Pan ddaeth i'r BBC mi fu'n cydweithio gyda mi ac yn uwch-gyflwynydd Radio Cymru a ches i erioed neb oedd yn gymaint o gefn i mi."
Dywedodd ei bod yn berson cadarn, yn barod i ddweud ei meddwl ac nad oedd dim byd cas ynddi. Roedd popeth, meddai, yn cael ei wneud er lles rhywun arall.
"Roedd ganddi glust dda ac yn gwybod beth oedd yn swnio'n iawn ac fe fu'n hyfforddi cyhoeddwyr ifanc."
Dywedodd fod gan nifer fawr o weithwyr presennol Radio Cymru ddyled iddi am ei hamynedd a'i chyngor.
"Roedd Menna yn dipyn o bopeth ac yn gallu gwneud popeth," meddai.