A dorrodd y bwrdd iechyd lleol addewid?
|
Mae pwyllgor sy'n ceisio amddiffyn dyfodol Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog yn honni fod y bwrdd iechyd lleol wedi torri addewid am nifer y gwelyau fydd yn yr ysbyty yn y dyfodol.
Mewn cyfarfod oedd yn trafod dyfodol y ddarpariaeth iechyd yn y dref ddydd Llun honnodd cadeirydd y pwyllgor fod prif weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd wedi dweud mai'r nod fyddai cael gwared ar yr holl welyau yn yr ysbyty ymhen tair blynedd.
Dywedodd Gwilym Euros Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog, fod hyn yn groes i addewid gafodd ei wneud y llynedd.
Mae'r bwrdd iechyd lleol yn dweud fod y geiriau wedi eu cymryd o'u cyd-destun.
Yn Rhagfyr pleidleisiodd Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd o blaid lleihau nifer gwelyau Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog o 17 i rhwng wyth a 12 - a phe bai'r cynlluniau i gyflwyno gofal ar lefel gymunedol yno'n gweithio erbyn hynny, i gael gwared arnyn nhw'n llwyr o fewn tair blynedd.
Bydd swyddogion yn adolygu'r sefyllfa, yn cadw golwg ar ddatblygiad y cynlluniau iechyd cymunedol yn flynyddol.
Ond mae Mr Roberts wedi honni mai'r bwriad yw cael gwared ar yr holl welyau yno, doed a ddêl, a bod prif weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd wedi dweud hynny wrtho yn blaen yn y cyfarfod ddydd Llun.
'Brwydro'
"Pan ofynnais i i'r prif weithredwr os mai ei gweledigaeth hi fyddai na fyddai gwelyau o gwbwl yn Ysbyty Coffa Ffestiniog mewn tair blynedd, 'Ie' oedd ei hateb hi.
"Felly dwi ddim yn meddwl ei fod (y sylw) wedi ei gymryd o'i gyd-destun o gwbwl," meddai.
"Rydan ni'n mynd i frwydro i sicrhau bod o leiaf 12 o welyau yn cael eu cadw yma yn yr ysbyty ... mae'r ffigyrau i gyd yn dangos bod angen hynny."
Fe fu 1,000 o bobl yn protestio mewn rali ym Mlaenau Ffestiniog y llynedd
|
Dywedodd mai'r hyn ddywedwyd fis Rhagfyr oedd "y byddai yna leihad yn syth o 17 o welyau i rhwng wyth a 12 ac mi ddaru ni fel pwyllgor amddiffyn ar gyngor Cyngor Iechyd Meirionydd dderbyn 12 fel rhif".
"Beth ddywedwyd wrthyn ni oedd y byddai'r ffigwr yma rhwng wyth a 12 yn cael ei adolygu mewn tair blynedd, mae hynny'n gwbl bwysig.
"Os mai gweledigaeth y prif weithredwr a'i staff hi yw na fydd dim gwelyau yno mewn tair blynedd, yna all yr adolygiad hwnnw fod yn un teg a chytbwys?"
Dywedodd Dylan Williams o'r bwrdd iechyd lleol fod y cwestiwn wedi ei gymryd o'i gyd-destun.
"Does dim byd wedi newid o ran y cytundeb y daeth y bwrdd iddo yn Rhagfyr ynglŷn â'r gwaith sy'n mynd i gael ei wneud ym Mlaenau Ffestiniog," meddai.
'Trafodaethau manwl'
Dywedodd mai'r un oedd y cynlluniau - canolbwyntio ar roi gwasanaethau cymunedol mewn lle a gweld sut y byddai'r rhain yn gweithio.
"Mae grŵp lleol wedi ei sefydlu ac mae trafodaethau manwl iawn wedi bod o fewn y grŵp yngl#373;n â beth sydd angen digwydd dros y tair blynedd nesaf.
"Yn sicr, datblygu gwasanaethau cymunedol yw'r prif bwnc sydd wedi ei drafod.
"Mae tair blynedd yn gryn ffordd i fynd ... mae'n rhaid i ni wneud yn siwr fod y gwasanaethau sy'n cael eu rhoi yn y tair blynedd yna'n gweithio'n iawn.
"Ond y tebygolrwydd ydi na fydd y gwelyau yna," meddai.
Mae'r pwyllgor amddiffyn wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus i drafod eu pryderon yn Ysgol y Moelwyn nos Lun, Ebrill 24.