Gallai 11 o ysgolion cynradd a chwech o ysgolion uwchradd gau yng Nghaerdydd fel rhan o gynllun ad-drefnu.
Mae'r cynllun, fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, wedi ei lunio gan fod 8,000 o lefydd gwag yn ysgolion y ddinas.
Fe fu disgyblion yn Ysgol Cantonian yn Y Tyllgoed, sydd wedi ei chlustnodi i gau, yn protestio ddydd Iau.
Rhan o'r cynllun ad-drefnu yw codi nifer ysgolion Cymraeg.
Mae'r amserlen o ran cau yn amrywio a gallai rhai o'r ysgolion sydd yn y fantol fod ar agor am rai blynyddoedd eto.
Dywedodd Cyngor Caerdydd fod bwriad buddsoddi £300m mewn adeiladau ysgol.
Mae'r cyngor yn dweud ei fod wedi cael gorchymyn gan Lywodraeth y Cynulliad a'r corff arolygu Estyn i leihau'r nifer o lefydd gwag yn ysgolion y ddinas.
Bydd ysgolion uwchradd Llanedyern, Llanrhymni, Tredelerch, Cantonian, Mair Ddihalog ac Illtyd Sant yn cau dan y cynllun ad-drefnu arfaethedig.
Ond fe fydd tair ysgol uwchradd newydd yn agor - un ohonyn nhw'n ysgol gyfwng Cymraeg.
Bydd ysgol uwchradd Gatholig yn cymryd lle ysgol isaf Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Wen, ysgol fwya'r ddinas ar hyn o bryd, ac fe fydd ysgol uwchradd gymunedol yn agor yn Nhredelerch.
Hefyd mae bwriad adeiladu dwy ysgol gynradd newydd - un ym Mhontprennau, ardal sydd heb ysgol ar hyn o bryd, ac ysgol Gymraeg yn ardal Trowbridge.
Ni fydd rhai o'r ysgolion sy'n cael eu rhestru yn y ddogfen ymgynghori yn cael am hyd at saith mlynedd ond mae bwriad agor ysgol i wasanaethu ardal Pontprennau a Hen Laneirwg ym Medi 2008.
Mae newidiadau i dalgylchoedd yn cael eu cynnwys yn y cynigion yn ogystal ag ymroddiad i fuddsoddi £300m dros gyfnod o 10 i 15 blynedd i gwblhau gwaith cynnal a chadw sydd angen ei wneud ers tro i adeiladau ysgolion.
Sylfaen
Dywedodd arweinydd y cyngor Rodney Berman: "Nod y cynigion yw sicrhau'r addysg orau bosib i holl blant Caerdydd am genedlaethau i ddod."
Fe ddywedodd fod y cynllun buddsoddi £300m "digynsail" yn "sylfaen" i wireddu gweledigaeth y cyngor i ddarparu "system addysg safon uchel, arloesol a chynwysedig".
"Rydym yn anelu at ddatblygu'r safon uchaf posib o addysg yn ysgolion Caerdydd fel y gallai pob disgybl gyrraedd safonau uchel."
Ychwanegodd Mr Berman y bydd y cynllun yn destun ymgynghori i rieni a grwpiau eraill ac ei fod eisiau adborth cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol.
Mae gweinidog addysg y cynulliad Jane Davidson wedi gwrthod gwneud sylw am y cynlluniau gafodd ei hamlinellu i brifathrawon yn y ddinas ddydd Mercher.
Fydd y cynigion yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau ar gychwyn cyfnod o dri mis o ymgynghori.