Gallai 11 ysgol gynradd a chwech ysgol uwchradd gau yng Nghaerdydd oherwydd cynllun ad-drefnu.
Dyma restr lawn yr argymhellion fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae amserlen y newidiadau arfaethedig yn amrywio a gallai rhai o'r ysgolion fod ar agor am rai blynyddoedd.
Yr argymhellion yw:
YSGOLION UWCHRADD
Ysgol Uwchradd Llanedern i gau
Ysgol Llanrhymni i gau
Ysgol Tredelerch i gau
Ysgol Cantonian i gau
Ysgol Mair Ddihalog i gau
Ysgol Illtud Sant i gau a throi'n ysgol Gymraeg.
Fe fydd ysgol uwchradd gymunedol newydd yn cael ei hagor i wasanaethu Llanrhymni a Thredelerch ar safle presennol Ysgol Uwchradd Llanrhymni.
Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Newydd - bydd maint yr ysgol uchaf yn cael ei leihau. Bydd yr ysgol isaf (ar Manor Way) yn cael ei throi'n Ysgol Uwchradd Gatholig newydd.
YSGOLION CYNRADD
Dalgylch Llanrhymni
Ysgol Gynradd Pen-y-bryn i gau
Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Llaneirwg i gau
Ysgol Gynradd Greenway i gau
Dalgylch Yr Eglwys Newydd
Eglwys Wen i gau - yr adeilad i gael ei ddefnyddio gan Ysgol Melin Gruffydd
Dalgylch Cathays
Ysgol Eglwys yng Nghymru y Santes Anne i gau erbyn Awst 2007
Dalgylch Fitzalan
Ysgol Gynradd Ffordd Radnor i gau - yr adeiladau i gael eu defnyddio gan Ysgol Treganna
Dalgylch Ysgol Uwchradd Caerdydd
Ysgol Gynradd Llanedern i gau
Dalgylch Ysgol Uwchradd Llanisien
Cefn Onn i gau - yr adeiladau i gael eu defnyddio gan Ysgol y Wern
Bryn Celyn i gau
Bydd ysgol newydd yn cael ei hadeiladu i wasanaethu Pontprennau a Hen Laneirwg, gan agor ym Medi 2008
Dalgylch Cantonian
Ysgol Gynradd Peter Lea yn Y Tyllgoed i gau
Dalgylch Ysgol Uwchradd Willows
Ysgol Gatholig Sant Cuthbert yn Nhrebiwt i gau erbyn Awst 2007
Mannau eraill
Ysgol Gynradd Gwaelod-y-garth - y ffrwd Saesneg i gau gan droi'i ysgol yn ysgol Gymraeg
Coleg Cymunedol Llanfihangel (hen Ysgol Uwchradd Glan Elai) i gydweithio gydag Ysgol Uwchradd Glyn Derw
Ysgol Gynradd Millbank yn ardal Y Caerau i gau a chael ei throi'n ysgol gynradd Gymraeg
Ysgol Feithrin Moorland yn Y Sblot i gau
Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn i gael ei symud i Fitzalan