BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 6 Ebrill 2006, 06:19 GMT 07:19 UK
Prifwyl: Apêl yn cyrraedd targed
R Alun Evans
Fe wnaeth R Alun Evans lansio'r apêl yn Awst 2004

Mae Apêl Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi ei chau am ei bod wedi cyrraedd ei tharged.

Cafodd yr apêl ei lansio yn Awst 2004 mewn cyfnod pan oedd sefyllfa ariannol y Brifwyl yn fregus.

£300,000 oedd y targed ac mae'r swm hwnnw bellach wedi cael ei godi.

Dywedodd sylfaenydd yr apêl, cyn-Lywydd Llys yr Eisteddfod R Alun Evans, bod y rhoddion a'r cyfraniadau i'r apêl yn arwydd "o ewyllys da tuag at Eisteddfod Genedlaethol Cymru".

Argyfwng

Cafodd Apêl y Llywydd ei lansio ar ddiwedd Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch yn 2004.

Pafiliwn yr Eisteddfod
Roedd yr Eisteddfod yn wynebu argyfwng ariannol yn 2004

Ar y pryd roedd y Brifwyl yn wynebu argyfwng ariannol o ganlyniad i glwy'r traed a'r genau yn 2001, tywydd gwael yn Nhyddewi yn 2002 a gostyngiad ym maint grant blynyddol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg i gynnal yr achlysur.

Y gobaith wrth lansio'r apêl oedd codi £300,000 er mwyn sicrhau dyfodol yr ŵyl.

"Dyna oedd y ffigwr oedd yn ddyledus ar y pryd i ofalu ein bod yn gallu talu am yr hyn oedd eisoes wedi ei dderbyn yn Eisteddfod Casnewydd i dalu ein dyledwyr, i dalu cyflogau staff, ac roedd angen llif o arian ar unwaith," meddai R Alun Evans.

Fel rhan o'r apêl derbyniwyd cannoedd o roddion gan unigolion a grwpiau drwy Gymru tuag at yr achos.

Yn ogystal â'r rhoddion ariannol, derbyniwyd cofroddion a gwaith celf i'w werthu.

'Edrych ymlaen'

Rhoddodd yr artist Aneurin Jones lun gwreiddiol o'i waith ac fe gyfrannodd tîm rygbi Cymru grysau rygbi wedi'u harwyddo gan y chwaraewyr enillodd y gamp lawn y llynedd.

"Fe ddaeth yr arian i mewn yn raddol dros ddwy flynedd ac erbyn hyn mae'n dda dweud ein bod wedi cyrraedd y nod," meddai Mr Evans.

"Bu'r ymateb hael gan eisteddfodwyr o Gymru a thu hwnt yn fodd i agor y drws i gyfraniadau pellach gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Chynulliad Cenedlaethol Cymru."

Ychwanegodd fod "seiliau ariannol yr Eisteddfod wedi cymryd cam bras ymlaen" oherwydd cytundeb 22 awdurdod lleol Cymru i ariannu'r Brifwyl.

Hefyd fe wnaeth Eisteddfod Genedlaethol Eryri elw sylweddol yn 2005.

"Rhwng y cyfan, mae modd i'r Eisteddfod bellach edrych ymlaen, gobeithio, i ddyddiau mwy llewyrchus."

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Abertawe eleni ac yn Sir y Fflint yn 2007 ar Stad Pentre Hobin ar gyrion Yr Wyddgrug.




HEFYD
Prifwyl 2005: Elw sylweddol
07 Ion 06 |  Newyddion
Prifwyl 2007: Cychwyn ar godi arian
25 Tach 05 |  Newyddion
Prifwyl: Cytundeb mewn egwyddor
27 Medi 05 |  Newyddion
Llwyddiant ariannol i Steddfod Eryri
07 Awst 05 |  Newyddion
Prifwyl: Trafod y ffordd ymlaen
25 Meh 05 |  Newyddion
Prifwyl: Dyled o £111,000
24 Meh 05 |  Newyddion
Eisteddfod: Apêl frys am £300,000
07 Awst 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^