Y bwriad yw canolbwyntio mwy ar wasanaethau yn ysbytai rhanbarthol y gogledd
|
Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cychwyn ddydd Llun dros gynigion i ad-drefnu gwasanaethau ysbytai yng Ngogledd Cymru.
Ymysg y cynigion gafodd eu datgelu ym mis Chwefror y mae cau dau ysbyty - Ysbytai Abergele ac Ysbyty HM Stanley yn Llanelwy.
Fe allai sgiliau arbenigol gael eu canoli yn nhri ysbyty rhanbarthol y gogledd - Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Wrecsam Maelor.
Bydd y cyfnod ymgynghori 12 wythnos yn cynnwys cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus lleol ac arddangosfeydd.
Mae'r cynigion hefyd yn argymell newidiadau yn Ysbyty Llandudno, a fyddai'n colli tri gwely coronari. Byddai gwasanaethau cansyr y fron hefyd yn cael eu trosglwyddo i ganolfan arall.
Y ddogfen ymgynghorol Cynllun Gogledd Cymru sy'n amlinellu newidiadau arfaethedig dros y pump i 10 mlynedd nesa.
Mae'r adolygiad yn cael ei gynnal yng nghyd-destyn poblogaeth sy'n heneiddio a'r ffaith fod llai o gleifion angen triniaeth yn yr ysbyty.
Byddai mwy yn cael eu trin yn y gymuned - mewn meddygfeydd, clinigau, gartre a thrwy gyngor dros y ffôn.
'Gweledigaeth fentrus'
Dywed y tîm adolygu, sy'n cynnwys aelodau o ymddiredolaethau iechyd a byrddau iechyd lleol y rhanbarth, fod y ddogfen yn "weledigaeth fentrus" ar gyfer y dyfodol.
"Mae angen i ni ddechrau cynllunio ar gyfer dyfodol fydd yn gweld y safonau ucha o ofal meddygol yn cael eu darparu ar gyfer pobl gogledd Cymru", meddai Trefor Jones, cadeirydd y bwrdd adolygu.
 |
CRYNODEB O'R CYNIGION
Gwasanaethau llym i symud o Landudno
Achosion orthopadig i symud o Abergele i Ysbyty Glan Clwyd
Meddygaeth y llygad i symud o HM Stanley i Ysbyty Glan Clwyd
Symud gwasanaethau adferiad strôc o HM Stanley i safle mwy priodol
Rhagor o drafodaeth ynghylch dyfodol ysbytai, eu cau yn bosibilrwydd
|
Ond mae pryderon eisoes wedi eu mynegi yn lleol ynghylch colli gwasanaethau'r tri ysbyty llai a'r posibilrwydd o gau'r ysbytai'n gyfangwbwl.
Dywed rheolwyr y gwasanaeth iechyd mai sicrhau'r gofal gorau bosib yw'r nod ond poeni y mae aelodau'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad mai torri costau yw'r flaenoriaeth.
Ym mis Chwefror y daeth manylion yr adolygiad i'w amlwg, ond fe gychwynnodd y broses ym mis Gorffennaf y llynedd.
Mae Ysbyty Abergele â 49 o welyau ac mae'n cynnig gwasanaethau orthopedig a meddyginiaeth y fron. Amcangyfrifir fod angen £4.4m i'w gynnal a chadw.
Yn Ysbyty HM Stanley mae 22 o welyau ac mae'r uned yn cynnig gofal i gleifion ar ôl strôc, i gleifion allanol ac mae'r rhoi gofal adferiad i'r henoed.
Ond mae'r adolygiad yn rhagweld y byddai'n costio £2.5m i wneud gwaith cynnal a chadw sydd angen ei gwblhau.
Yn ystod y blynyddoedd diwetha mae £4.5m wedi ei fuddsoddi yn Ysbyty Llandudno, gan gynnwys dwy ward ac adran adferiad.
Mae'r ddogfen ymgynghori'n argymell sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer gwasanaethau adferiad yna.