BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 2 Ebrill 2006, 13:49 GMT 14:49 UK
Plac i nodi gêm i'w chofio
Golygfa o'r gêm yn 1906 (Hawlfraint Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru a'r BFI)
Mae'r ffilm yn cael ei chadw yn yr archif Cymreig yn Aberystwyth

Mae plac wedi cael ei ddadorchuddio gan reolwr tîm pêl-droed Cymru John Toshack yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam ddydd Sul, canrif i'r diwrnod y gwnaeth Cymru chwarae yn erbyn Iwerddon.

Nodi yr oedd yr achlysur yr hyn y credir yw'r ffilm fwya' cynnar sy'n dal i oroesi o gêm bêl-droed ryngwladol.

Mae'r ffilm fud yn para am ychydig dros ddau funud ac mae'n cael ei chadw gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

Pedair gôl yr un oedd y sgôr ar ddiwedd y gêm yn 1906 a gafodd ei gwylio gan dorf o hyd at 6,000 yn y Cae Ras.

Cafodd y gêm ei ffilmio gan yr arloeswyr Sagar Mitchell a James Kenyon, oedd yn gweithio o ogledd orllewin Lloegr.

Fe roedd, yn ôl pob sôn, yn gêm oedd yn llawn cyffro ac fe wnaeth y bêl fyrstio ychydig cyn yr egwyl.

Rhyfeddu

Dywedodd adroddiad papur newydd ar y pryd fod y tywydd yn "hyfryd a'r maes mewn cyflwr perffaith".

Sgoriodd Williams Green, chwaraewr o Aberystwyth oedd yn chwarae i dîm Notts County, deirgwaith i Gymru.

Golygfa o'r gêm yn 1906 (Hawlfraint Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru a'r BFI)
Pedair gôl yr un oedd y sgôr yn Ebrill 1906

Dywedodd yr AS lleol Ian Lucas: "Wrecsam yw man geni pêl-droed yng Nghymru. Cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei sefydlu yma, mae gyda ni amgueddfa bêl-droed ardderchog - mae'r fan hyn yn ardal bêl-droed o draddodiad".

"Mae'n wych ein bod yn gallu nodi'r achlysur hanesyddol yma yn yr un flwyddyn â chystadleuaeth Cwpan y Byd."

"Mi fydd yna lawer o bobl, nid yn unig yma yn Wrecsam, nid yn unig yng Nghymru, nid yn unig ym Mhrydain, ond o amgylch y byd fydd yn cael eu rhyfeddu gan hyn."

Fe fu timau o ysgol uwchradd leol yn ail-greu'r gêm yn y Cae Ras ddydd Sul.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^