BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 1 Ebrill 2006, 09:29 GMT 10:29 UK
'Angen rhoi llythyr Glyndwr yn l'
Straeon Glyndŵr
Coroni Owain Glyndŵr

Mae ymgyrch yn galw ar y Ffrancwyr i anfon dogfen hanesyddol yn l.

Chwe chan mlynedd yn l anfonodd Owain Glyndŵr Llythyr Pennal at Frenin Ffrainc yn gofyn am help i ymladd y Saeson. Ni chafodd y llythyr ei ateb.

Mae un o lythyrau pwysicaf hanes Cymru yn archifau Llywodraeth Ffrainc, mewn amgueddfa ym Mharis.

Cafodd y llythyr gwreiddiol, oedd yn dangos ei weledigaeth o Gymru annibynnol ac unedig, ei ysgrifennu ger Machynlleth yn 1406.

Roedd y llythyr yn Lladin ac yn un o'r enghreifftiau prin o ysgrifen yr arwr canoloesol.

Glyndŵr
Gweledigaeth: Glyndŵr

Mae'r hanesydd Catrin Stevens wedi dweud ei bod yn ddogfen hanesyddol bwysig.

"Er bod sawl cymal yn y llythyr, yr un mwya pwysig yw y byddai'er eglwys Gymreig yn annibynnol ac archesgob yn Nhyddewi.

"Roedd y ddogfen yn dweud fod angen i holl swyddogion yr eglwys Gymreig fod yn Gymry Cymraeg ...

"Y cymal mwya cyffrous oedd sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru ... ar y pryd roedd hwn yn gam arloesol."

Dywedodd fod y llythyr yn dangos fod Glyndŵr nid yn unig yn arweinydd milwrol ond hefyd yn wleidydd a chanddo weledigaeth.

Yn 2001 cafodd Llythyr Pennal ei arddangos yng Nghymru.




HEFYD:
Dadorchuddio 'cleddyf Glyndwr'
06 Mai 04 |  Newyddion
Cyhoeddi dathliadau Glyndwr
04 Ion 04 |  Newyddion
Darganfod rhan o gastell Glyndwr
29 Ebr 03 |  Newyddion
Cyhoeddi stamp brwydr Glyndwr
15 Meh 04 |  Newyddion



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^