Dywedodd y consortiwm y bydd hyn yn diogelu pêl-droed ar y Cae Ras
|
Mae'r dyn busnes sy'n arwain consortiwm i brynu Clwb Pêl-droed Wrecsam yn hyderus y byddan nhw'n medru dod i gytundeb o fewn wythnosau.
Mae gan y clwb tan Fehefin 3 i ddod o hyd i brynwr neu wynebu cael eu diarddel o'r gynghrair. Erbyn hynny fe fyddai'r clwb wedi bod yn nwylo'r gweinyddwyr am 18 mis.
Mae'r gweinyddwyr wedi cytuno i gynnal trafodaethau gydag un consortiwm yn unig, sef yr un o dan arweinyddiaeth y dyn busnes lleol, Neville Dickens.
Fe fydd y cytundeb yn dod i ben ar Ebrill 30 a dywedodd Mr Dickens ei fod yn bwriadu rhoi unrhyw elw yn ôl i goffrau'r clwb.
"Rydyn ni'n hyderus y byddwn yn gallu cwrdd â'r dyddiad sydd wedi ei bennu. Ond mae llawer o waith i'w wneud."
Ychwanegodd ei fod am sicrhau nad oedd y clwb yn gorfod wynebu problemau tebyg eto.
"Rydyn ni'n hyderus ein bod yn gallu symud ymlaen i sicrhau bod y clwb mewn sefyllfa ariannol well," dywedodd Mr Dickens.
Cafodd y cytundeb arbennig ei arwyddo ddydd Mercher er mwyn sicrhau na fyddai'r un consortiwm arall yn cynnal trafodaethau am y tro.
Colli pwyntiau
Fe aeth Wrecsam i ddwylo'r gweinyddwyr ddiwedd 2004 gyda dyledion o dros £4m.
 |
Mae'n hymdrechion i gyd i roi dyfodol i Glwb Pêl-Droed Wrecsam
|
Oherwydd hyn cafodd y clwb ddirwy drwy golli 10 pwynt yn y Gynghrair Pêl-Droed ac o ganlyniad ym mis Mai 2005 fe wnaeth y Dreigiau ostwng i Adran Dau'r Gynghrair.
Wedi cyfres o achosion llys fe wnaeth y Llys Apêl ddyfarnu'n gynharach ym mis Mawrth mai'r gweinyddwyr ac nid y cyn gadeirydd, Alex Hamilton, ddylai gadw perchnogaeth y Cae Ras.
Fe wnaeth y dyfarniad olygu bod modd symud ymlaen gyda gwerthu'r clwb cyn Mehefin 3.
Mewn datganiad ddydd Mercher, yn cyhoeddi'r cytundeb gyda Neville Dickens a'r consortiwm, dywedodd y gweinyddwyr, David Acland a Steven Williams bod y cytundeb arbennig yn para tan Ebrill 30 ac "yn yr amser yma rydym yn gobeithio arwyddo a chyfnewid cytundebau am berchnogaeth asedau'r clwb".
"Rydym yn credu mai cais Dickens ydi'r gorau i fuddiannau'r clwb a'r cyfranddalwyr."
Symud ymlaen
Bu Mr Dickens yn gyfarwyddwr y clwb yn y 1980au ac mae un o'i fusnesau gwerthu ceir ar y tir drws nesaf i'r Cae Ras.
Ym mis Ebrill 2005 fe wnaeth gais i brynu'r clwb, cais gafodd ei groesawu gan Ymddiriedolwyr Cefnogwyr Wrecsam.
Ar ôl arwyddo'r cytundeb ddydd Mercher dywedodd Mr Dickens ei fod yn falch iawn.
"Rydym am weld pêl-droed yn aros ar y Cae Ras a gosod Clwb Pêl-Droed Wrecsam mewn safle ariannol diogel er mwyn symud ymlaen."
Ychwanegodd ei fod am gadw'r rheolwr Denis Smith ac addawodd "gefnogaeth ariannol ddigonol er mwyn i'r tîm allu cystadlu ar frig yr adran".
"Mae'n hymdrechion i gyd i roi dyfodol i Glwb Pêl-Droed Wrecsam.
"Mae 'na sawl cam i'w oresgyn eto ond rydym yn gweithio'n galed i gael canlyniad positif."