Mae'r pafiliwn wedi ei gynllunio ar gyfer un o ymgyrchoedd cansyr y fron
|
Fe fydd yna bafiliwn pinc llachar yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch eleni.
Mae wedi ei gynllunio ar gyfer un o ymgyrchoedd cansyr y fron a dechrau mis Awst y babell binc fydd llwyfan y beirdd, cantorion, llefarwyr a'r dawnswyr ar gaeau Parc Felindre.
Cwmni DeBoer gynlluniodd y pafiliwn ar gyfer Walk-the-Walk, ymgyrch cansyr y fron.
Bydd y babell binc yn cymryd lle'r pafiliwn syrcas gyda streipiau glas a melyn sydd wedi ei ddefnyddio gan y Brifwyl yn ddiweddar.
"Beth sydd wedi digwydd ydi bod y pafiliwn rydan ni wedi bod yn ei ddefnyddio ers 2003 wedi bod yn dod o Wlad Belg bob blwyddyn ac yn mynd yn ôl yno," meddai Alan Gwynant, Swyddog Technegol yr Eisteddfod.
"Mae'r elusen Walk-the-Walk wedi mynd at y cwmni a dweud ei fod am gael adeilad tebyg a gan eu bod nhw'n fodlon cymryd yr adeilad, a ni, ac mae un dasg arall gweddol fawr, mae'r cwmni wedi penderfynu adeiladu un newydd a lliw'r elusen yw'r lliw pinc."
'Codi ymwybyddiaeth'
Dywedodd na fydd y cyhoedd yn gweld dim gwahaniaeth y tu mewn i'r pafiliwn newydd.
Pafiliwn glas a melyn sydd wedi ei ddefnyddio'n ddiweddar
|
"Mae ychydig yn well i ni'n dechnegol - mae streipiau y tu mewn i'r adeilad presennol sy'n achosi ychydig o broblemau o bryd i'w gilydd," meddai.
"Does dim streipiau y tu mewn i hwn, mae'n las tywyll i gyd ac mae ychydig yn uwch hefyd sy'n help i ni o ran y system oleuadau."
Dywedodd fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn falch o allu helpu'r elusen.
"Mae hwn yn gyfle euraidd i godi ymwybyddiaeth o'r Eisteddfod ar y naill law ac ymgyrch cansyr y fron ar y llall," meddai.
"Mae'r Eisteddfod yn edrych ymlaen at roi cartref i'r pafiliwn pinc, yn sicr fe fydd yn denu sylw pawb fydd yn teithio ar yr M4 ac yn siwr o fod yn destun limerig neu ddau wythnos yr Eisteddfod."