'Brwdfrydedd mawr': Yr Athro Dai Smith
|
Yr Athro Dai Smith fydd cadeirydd dros dro Cyngor Celfyddydau Cymru tan ddiwedd adolygiad annibynnol o waith y corff.
Bydd yn dechrau yn ei swydd pan yw tymor Geraint Talfan Davies yn dod i ben y mis hwn.
Cyhoeddodd Gweinidog Diwylliant y Cynulliad Alun Pugh benodiad yr Athro Smith ddydd Mawrth.
Ond mae'r gwrthbleidiau'n cyhuddo Mr Pugh o wneud y penodiad am resymau gwleidyddol.
Elan Closs Stephens, cadeirydd S4C ac Athro'r Diwydiannau Cyfathrebu a Chreadigol ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, fydd cadeirydd y panel adolygu.
Bydd aelodau eraill y panel adolygu yn cael eu cyhoeddi cyn gwyliau'r Pasg.
"Fel deilydd Cadair Raymond Williams mewn Hanes Diwylliannol yn Abertawe mae'r Athro Smith nid yn unig yn hanesydd diwylliannol nodedig ond mae ganddo frwdfrydedd mawr dros y celfyddydau ac mae felly, yn amlwg, yn addas i gyflawni'r swyddogaeth hon," meddai Mr Pugh.
Dywedodd fod ganddo ef fel gweinidog gyfrifoldeb dros benodi cadeirydd ond bod "angen trefniant dros dro" o ganlyniad i'r adolygiad hyd nes y bydd y "ffordd ymlaen yn glir ar gyfer dechrau'r broses benodi llawn".
Geraint Talfan Davies: Tymor yn dod i ben
|
"Rydyn ni ar ddechrau proses hanfodol o adolygu dyfodol darpariaeth y celfyddydau i holl bobl Cymru," meddai'r Athro Smith.
"Rhaid i Gyngor y Celfyddydau fod yn gatalydd ar gyfer trafodaeth a fydd yn rhydd rhag emosiwn a phersonoliaethau.
'Hwyluso'
"Fel aelod ers amser o'r cyngor dwi wedi derbyn rôl y cadeirydd dros dro i helpu hwyluso'r drafodaeth honno ac arwain ymateb y cyngor."
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar ddiwylliant, Lisa Francis AC: "Dyw gweithred y gweinidog yn gadael y penodiad hwn tan y funud ola ddim wedi creu unrhyw hyder ymhlith aelodau Cyngor y Celfyddydau a'r rhai sy'n gweithio yn y gymuned gelfyddydol ...
"Mae sut y mae'r gweinidog wedi delio â'r sefyllfa hon wedi bod yn gywilyddus, araf ac yn draed moch.
"Yn y tymor hir rhaid i Lywodraeth y Cynulliad gynhyrchu amserlen iawn ar gyfer penodi cadeirydd Cyngor y Celfyddydau."
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol fod Mr Pugh wedi creu "amheuaeth ddofn" wrth benodi cadeirydd dros dro.
Honnodd Jenny Randerson AC fod Mr Pugh wedi methu â chaniatáu digon o amser i wneud penodiad hir dymor.
"Pan wnaethoch eich datganiad i'r pwyllgor yn Ionawr fe wnaethoch ein sicrhau y byddai hysbyseb ar gyfer y cadeirydd newydd yn ymddangos ... fe wnaethoch oedi ...
'Anhrefn'
"Yn Chwefror cawsoch eich gorfodi i ailystyried eich cynllun," meddai wrth Mr Pugh.
"Rydych chi wedi llwyddo i greu mwy o anrhefn mewn sefyllfa sydd eisoes yn anhrefnus ..."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant, Owen John Thomas AC, fod Mr Pugh, drwy wneud penodiad dros dro, "yn anwybyddu'n drahaus y côd ymarfer ar benodiadau cyhoeddus".
Roedd wedi ysgrifennu at y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, meddai, oherwydd ymddygiad Mr Pugh.